Un yn yr ysbyty ac oedi i deithwyr wedi gwrthdrawiad M4
- Cyhoeddwyd
Mae un person wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru wedi gwrthdrawiad ar yr M4 ger Caerdydd.
Roedd tri cherbyd yn y gwrthdrawiad ar y lôn ddwyreiniol yn ardal cyfnewidfa Coryton tua 05:30 bore Iau.
Roedd yna oedi difrifol i yrwyr am gyfnod gydag adroddiadau o hyd at naw milltir o dagfeydd yn ymestyn i ardal Pencoed.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad.
'Oedi hir'
Dywedodd y llu bod un o'r tri cherbyd wedi taro'r llain ganol wedi'r gwrthdrawiad gwreiddiol a bod un o'r gyrwyr wedi cael mân anafiadau i'r gwddf.
Cafodd dau ambiwlans, cerbyd ymateb cyflym a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu hanfon i'r safle.
Bu'n rhaid cau dwy lôn o dair tua'r dwyrain rhwng cyffyrdd 33 a 32 am gyfnod wedi'r gwrthdrawiad, ond roedd gyrwyr yn dal yn wynebu oedi hir wedi i'r lonydd ailagor tua 07:30.
Roedd yna rybudd i ddisgwyl awr a chwarter o oedi, ac roedd traffig oedd yn ceisio ymuno â'r draffordd ar gyffordd 34, Meisgyn, yn ciwio'n ôl i Donysguboriau.