Ymchwilio i ymddygiad cynghorydd 'am daro pen-ôl'

  • Cyhoeddwyd
Edwin Roderick
Disgrifiad o’r llun,

Mae Edwin Roderick yn gynghorydd annibynnol ar Gyngor Powys

Bydd cynghorydd o Bowys yn mynd gerbron y corff sy'n goruchwylio safonau cyhoeddus Cymru ar gyhuddiad o roi slap i ben-ôl cynghorydd arall mewn cyfarfod.

Dywedodd dau gynghorydd - a oedd yn y cyfarfod cyhoeddus yn Rhagfyr 2017 - mai'r honiadau ydy bod y Cynghorydd Edwin Roderick wedi taro'r Cynghorydd Emily Durrant ar ei phen-ôl.

Mae dau gynghorydd arall oedd yn y cyfarfod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi dweud wrth BBC Cymru fod Ms Durrant yn amlwg wedi cael braw gydag ymddygiad Mr Roderick.

Cafodd cwynion yn ei erbyn eu gwneud yn wreiddiol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd yntau "fod tystiolaeth sy'n awgrymu fod y Cynghorydd Edwin Roderick wedi torri cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol".

Dim sylw ar y mater

O ganlyniad, bydd Panel Dyfarnu Cymru nawr yn penderfynu pa gosbau - os o gwbl - ddylai wynebu Mr Roderick.

Nid oes dyddiad wedi ei bennu i'r gwrandawiad hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily Durrant yn cynrychioli'r Blaid Werdd ar Gyngor Powys

Doedd Mr Roderick, cynghorydd annibynnol i wardiau Maescar a Llywel ar Gyngor Powys, ddim am wneud sylw ar y mater.

Dywedodd Ms Durrant, cynghorydd i'r Blaid Werdd yn ward Llangors, wrth BBC Cymru nad oedd hi am wneud sylw tan ar ôl i'r panel ystyried yr achos yn erbyn Mr Roderick.

Honnir i Mr Roderick dorri'r rheolau sy'n cyfeirio at ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill; am ymddwyn mewn modd allai ddwyn anfri ar yr Awdurdod ac o ddefnyddio'r safle cyhoeddus i "hawlio neu sicrhau i chi eich hun, neu berson arall, fantais neu o greu neu osgoi anfantais i chi eich hunan neu berson arall".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys eu bod yn ymwybodol fod y Cynghorydd Roderick yn destun ymchwiliad gan Banel Dyfarnu Cymru ond eu bod yn ystyried ei fod yn "ddieuog tan iddo gael ei brofi'n euog".