Gohirio penderfyniad terfynol ar ganolfannau iaith Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Bu cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod dyfodol nawdd i ganolfannau iaith ddydd Mawrth

Mae penderfyniad ar doriadau i ganolfannau iaith yng Ngwynedd wedi cael ei ohirio am flwyddyn er mwyn rhoi cynnig ar gynllun peilot 12 mis.

Bu Cyngor Gwynedd yn trafod tynnu bron i £100,000 oddi ar ganolfannau sy'n trwytho plant yn y Gymraeg ddydd Mawrth.

Pe byddai'r newidiadau wedi cael eu cymeradwyo, mae'n debygol y byddai wedi arwain at golli swyddi neu gau un o'r pum canolfan yn y sir.

Ond yn dilyn gwrthwynebiad cryf yn lleol, fe benderfynodd aelodau o'r cabinet i ohirio gwneud penderfyniad hirdymor am flwyddyn arall.

Yn y cyfamser, bydd cynllun yn cael ei beilota a fydd yn caniatáu'r cyngor i weld pa mor effeithiol ydy strwythur gyda gostyngiad mewn staff yn un o'r canolfannau.

Protest Caernarfon

Mae'r canolfannau - yn Nolgellau, Llangybi, Caernarfon, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog - yn dysgu Cymraeg i blant sy'n symud i'r ardal ac sydd methu siarad yr iaith.

Ers eu sefydlu 35 mlynedd yn ôl, mae dros 7,000 o blant wedi'u derbyn.

Mae'r cyngor wedi dweud eu bod yn rhagweld cynnydd o £35,000 mewn costau, ac yn wynebu toriad o £61,000 yn y Grant Gwella Addysg y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Daeth dros 100 o bobl ynghyd mewn protest yng Nghaernarfon dros y penwythnos i wrthwynebu'r newidiadau posib.

Fe rybuddiodd prif weithredwr y cyngor, Dilwyn Williams y byddai'n rhaid i aelodau'r cabinet drafod goblygiadau hirdymor y canolfannau.

Er hynny, bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol ariannu'r cynllun am 12 mis.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod y penderfyniad yn "dangos bod ymgyrchu'n gweithio" ond ei fod hefyd yn golygu "cryn ansicrwydd".