Cynnydd yn y nifer sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r paratoadau munud olaf ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 fynd rhagddynt mae'r mudiad yn dweud bod cynnydd yn y nifer sydd wedi cofrestru i gystadlu eleni.
Ar drothwy Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro, dywedodd y prif weithredwr Siân Lewis bod yr Urdd yn "hynod o falch".
Yn ôl swyddog datblygu'r ardal, Geraint Scott, un o amcanion y mudiad ieuenctid yw pwysleisio bod cyfleoedd ar gael i'r "di-Gymraeg drwy gyfrwng yr Urdd".
Bore Sul bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal gan ddisgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr sy'n ymgyrchu dros hawliau teg i bobl LHDT yn yr ysgol a'r gymuned.
Nos Sul bydd cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd 2019 yn cael ei gynnal cyn i gystadlaethau'r ŵyl gael eu cynnal yn ystod yr wythnos.
Wrth baratoi i ymweld â Bae Caerdydd am y tro cyntaf ers 10 mlynedd, mae'r Urdd yn dweud ei bod wedi cyflwyno newidiadau er mwyn ceisio ei gwneud yn Eisteddfod fwy hygyrch i bawb.
Yn debyg i Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, bydd mynediad i faes yr Urdd am ddim ond bydd tâl yn cael ei godi ar gyfer tocynnau i'r rhagbrofion a'r pafiliwn i'r rheiny sydd ddim yn cystadlu.
Esboniodd Ms Lewis mai'r "peth fwyaf pwysig ydy ei fod o am ddim, er mwyn gallu denu llawer mwy o filoedd o blant a phobl ifanc yma i'r Eisteddfod".
"'Da ni wedi ystyried yr oblygiadau o gynnig yr Eisteddfod am ddim, a 'da ni mewn sefyllfa ariannol gadarnhaol," meddai.
'Rhywbeth yma i bawb'
Dywedodd Ms Lewis ei bod yn bleser ganddi gyhoeddi bod mwy wedi cystadlu eleni.
Yn ôl swyddog datblygu Caerdydd a'r Fro, maen nhw wedi bod yn ceisio estyn allan i ysgolion a chymunedau di-Gymraeg "na fyddai fel arfer yn meddwl ymuno a'r Urdd".
Ychwanegodd: "Os edrychwch chi ar y cystadlaethau, mae 'na nifer, a does dim ots os nad Cymraeg yw eich mamiaith.
"Mae'r adran gelf a chrefft, cerddoriaeth, mae 'na rywbeth yma i bawb."
Ymysg rhai o'r ysgolion newydd i ymuno â'r Urdd i gystadlu eleni mae ysgol cyfrwng Saesneg, Gladstone, yn ardal Cathays, Caerdydd.
Maen nhw'n cystadlu am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth parti llefaru i ddysgwyr, ar ôl cael eu hyfforddi gan ddisgyblion o'r ysgol Gymraeg gyfagos, Ysgol y Mynydd Bychan.
Ar ôl cyrraedd y brig yn y sir, mae'r ysgol wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer eu rhagbrawf yr wythnos hon.
Dywedodd prifathrawes yr ysgol, Paula Shipton-Jones bod "85% o'r disgyblion yn defnyddio Saesneg fel iaith ychwanegol".
"Be sy'n wych ydy, nid Cymraeg yw ail iaith y plant 'ma, ond i rai mae'n drydedd, pedwaredd iaith," meddai.
Bydd straeon yr wythnos o faes Eisteddfod yr Urdd a manylion am y prif enillwyr i'w gweld yma ar Cymru Fyw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019
- Cyhoeddwyd3 Mai 2019