Cau hen chwarel yng Ngwynedd oherwydd sbwriel ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd
Llyn GlasFfynhonnell y llun, Geograph | Confusion
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Titley yn berchen ar y safle ers bron i 30 mlynedd

Mae tirfeddiannwr yng Ngwynedd wedi cau'r fynedfa i safle hen chwarel er mwyn rhwystro ymwelwyr rhag ei "ddifetha".

Mae Allan Titley, ffermwr a pherchennog safle Llyn Glas y Friog, wedi caniatáu pobl i ymweld â'r hen chwarel ers yr 1980au.

Ond oherwydd twf ym mhoblogrwydd y safle fel llecyn i fynd i nofio, mae lefel y sbwriel hefyd wedi cynyddu yn aruthrol.

Dywedodd Mr Titley mai "digon yw digon", a'i fod o bellach wedi llenwi'r twnnel sy'n galluogi pobl i gyrraedd y llyn.

Yn ôl y cynghorydd Louise Hughes, mae tua 40 o fagiau sbwriel wedi eu casglu o'r safle "arbennig o brydferth" dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd y gwastraff yn cynnwys barbeciws tafladwy, poteli a chaniau cwrw, pebyll a gwastraff dynol.

'Torcalonnus'

Mae Mr Titley yn dweud bod y llanast ar y safle wedi gwaethygu dros y tair blynedd diwethaf, gyda channoedd o bobl yn ymweld â'r safle ar benwythnosau yn ystod yr haf.

"30 mlynedd yn ôl roedd pobl yn parchu'r lle. Mae'n fan o brydferthwch arbennig ac mae o wedi cael ei ddifetha," meddai.

Ychwanegodd Mrs Hughes bod rhai ymwelwyr wedi "diystyru'r amgylchedd".

"Mae hi wedi bod yn gwaethygu yn raddol dros amser ac nid yw gwefannau cymdeithasol wedi helpu," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Wild Swim Snowdonia bod y newyddion yn "dorcalonnus".