Francesca Sciarrillo yn ennill Medal Dysgwyr yr Urdd 2019

  • Cyhoeddwyd
Francesca Elena Sciarrillo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Francesca Elena Sciarrillo yn byw gyda'i rhieni yn y Wyddgrug

Francesca Elena Sciarrillo yw enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2019.

Daeth Francesca, 23, o'r Wyddgrug i'r brig ymysg dau arall, Molly Evans a Jack Wilson ar faes yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd.

Mae'r fedal yn cael ei dyfarnu i unigolyn sydd yn dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd mewn coleg neu waith, ac yn gymdeithasol.

Francesca yw'r unig berson o'i theulu sy'n siarad Cymraeg, ac Eidaleg yw ei theulu i gyd.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i Francesca gan y beirniaid Martin Gwynedd ac Eirian Wyn Conlon.

'Agor Drysau'

Dechreuodd Francesca ddysgu siarad Cymraeg ar ôl symud i Fangor i gyflawni gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Esboniodd bod ei chariad, Harri o Gaernarfon, wedi bod yn gymorth mawr iddi wrth ddysgu.

Dywedodd: "Dwi'n falch iawn o fod yn Eidalwraig a Chymraes - dwy wlad brydferth! Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd mewn sawl ffordd.

"Mae wedi agor drysau i mi i lyfrau newydd, cerddoriaeth newydd, gwleidyddiaeth newydd ac yn bwysicach, pobl newydd, pobl sy'n golygu'r byd i mi!"

Mae'n ennill ar ôl diwrnod o heriau yn ymwneud â'r gystadleuaeth, a osodwyd i brofi iaith, hyder a gwybodaeth y tri chystadleuydd terfynol.

Roedd y rhain yn cynnwys gwneud cyfweliad byw gyda BBC Radio Cymru a siarad cyhoeddus mewn cynhadledd i'r wasg brysur o flaen newyddiadurwyr a chamerâu teledu.

Roedd Francesca yn defnyddio'r Gymraeg hefyd wrth astudio am radd ym Mhrifysgol Bangor.

Y ddau gystadleuydd arall a ddaeth i'r rownd derfynol oedd Molly Evans sy'n ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caer, yn astudio gradd mewn Ieithoedd Modern a Jack Wilson yn wreiddiol o Warrington, sy'n astudio Cemeg ym Mhrifysgol Bangor.

Nod Cystadleuaeth Medal y Dysgwyr yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.

Caiff ei dyfarnu i unigolyn sydd yn dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd mewn coleg neu waith ac yn gymdeithasol yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg eraill.