Siriol Jenkins yn ennill Y Fedal Gyfansoddi

  • Cyhoeddwyd
Seremoni Y Fedal GyfansoddiFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Defod cyhoeddi enillydd Y Fedal Gyfansoddi ydy prif seremoni gynta'r wythnos

Siriol Jenkins o Wiseman's Bridge yn Sir Benfro ydy enillydd Y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019.

Mae Siriol, 20, yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a doedd hi ddim yn bresennol yn y seremoni ar brynhawn dydd Llun gan ei bod yn sefyll arholiad yn y brifysgol.

Ei chyn-athro, Seimon Morris, a wnaeth gasglu'r wobr ar ei rhan.

Yn ogystal ag ennill y brif wobr, cyfansoddiad arall gan Siriol ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth.

Wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan, dywedodd y beirniad Euros Rhys Evans, bod darn Siriol yn "gyfansoddiad aeddfed ac effeithiol i ensemble offerynnol."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Siriol Jenkins yn methu â bod yn bresennol yn y seremoni ddydd Llun am ei bod yn sefyll arholiad yn y brifysgol

"Mae gan y cyfansoddwr hwn feistrolaeth ar gerddoriaeth," meddai, "ac mae'r deunydd cerddorol wedi ei ddatblygu'n effeithiol iawn."

Ychwanegodd ei fod yn "ensemble offerynnol disgrifiadol sy'n llawn delweddau a dychymyg cerddorol."

Yn drydydd yn y gystadleuaeth eleni oedd Elan Richards, yn wreiddiol o Landdarog, Sir Gaerfyrddin ond yn cystadlu fel aelod unigol o ranbarth tu allan i Gymru.

Wedi'r seremoni dywedodd Siriol wrth BBC Cymru Fyw: "Fi methu credu y peth, ond fi mor drist mod i wedi methu bod yna.

"Roedd e'n anodd peidio bod 'na, ond dwi moyn diolch i Seimon am fod mor gefnogol trwy gydol fy mywyd achos mae o wedi bod yn ysbrydoliaeth."

Roedd Siriol yn gwylio'r seremoni o Rhydychen ar ôl cyflawni ei arholiad terfynol yn y gerddoriaeth.

"Mae'n rhaid i mi ddiolch i'r Urdd hefyd am y profiadau gwych o ran gwneud cerddoriaeth a perfformio.

"Sa i'n credu y byddwn i rioed wedi cystadlu gymaint heb yr Urdd. "

Daeth Siriol yn ail yn y gystadleuaeth hon yn 2016.

Canmoliaeth cyn-athro

Ei chyn-athro, a'r arweinydd corau, Seimon Morris a fu'n casglu'r wobr ar ran Siriol.

Wedi'r seremoni dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Ma hyn yn fraint fawr, ond o ni bach yn nerfus oherwydd dwi heb wneud dim byd wrth gwrs.

"Mae hi (Siriol) wedi gwneud yn arbennig o dda trwy gydol ei hoes," meddai Mr Morris, sydd wedi cymryd rhan mewn nifer o gyngherddau gyda hi ym Mhenfro.

Mae Mr Morris wedi cyfeilio i frawd Siriol yn y gorffennol hefyd.