Cyhuddo dau weithiwr Mansel Davies o ffugio cofnodion
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr-gyfarwyddwr ac un o weithwyr cwmni cludiant Mansel Davies wedi ymddangos o flaen ynadon yn Hwlffordd ar gyhuddiadau'n ymwneud â ffugio cofnodion.
Cafodd Stephen Mansel Davies a Jonathan Wyn Phillips eu rhyddhau ar fechnïaeth a byddan nhw'n ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ar 5 Gorffennaf.
Mae Mr Davies, 57 o Lanfyrnach, Sir Benfro, yn wynebu 19 o gyhuddiadau.
Mae Mr Phillips, 27 o Fynachlog-ddu, Sir Benfro yn wynebu 34 o gyhuddiadau.
'Difrifoldeb'
Dywedodd Lee Reynolds, sy'n erlyn ar ran yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau - y DVSA - fod yr ymchwiliad i gofnodion y cwmni wedi dechrau ar ôl i un o gerbydau'r cwmni gael ei stopio.
Ychwanegodd, oherwydd difrifoldeb y cyhuddiadau, fod angen i'r mater gael ei gyfeirio at Lys y Goron.
Cafodd y ddau ddiffynnydd fechnïaeth amhenodol.
Ni wnaeth bargyfreithwyr ar ran y ddau ddatgan sut y byddant y pledio.
Mae cwmni Mansel Davies o Lanfyrnach, ger Crymych yn cyflogi tua 300 o bobl.