Rhybudd i ymwelwyr wedi i neidr frathu menyw ar draeth
- Cyhoeddwyd
![Neidr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F139/production/_107535716_429fbf8d-3565-4124-a5e0-cf14e92b7f67.jpg)
Dywedodd Abbie Boniface, oedd yn cerdded gyda'i mab a'i merch ar y pryd, ei bod hi'n "falch mai fi oedd o ac nid nhw"
Mae ymwelwyr i draeth poblogaidd yng Ngheredigion wedi cael eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus ar ôl i ddynes gael ei brathu gan neidr dros y penwythnos.
Roedd Abbie Boniface, 40, yn ymweld ag Ynyslas ger Borth gyda'i theulu pan gamodd hi ar y wiber a chael ei brathu drwy ei hesgid.
Bu'n rhaid iddi dreulio'r noson yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth a chael cyffuriau i drin y clwyf wedi i'w throed ddechrau chwyddo.
Mae hi bellach yn gwella adref yn ei chartref yn Cannock, Sir Stafford, ac yn cyfaddef nad oedd y profiad "yn un pleserus".
![Abbie Boniface](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7C09/production/_107535713_44c58e06-fe90-430e-93da-51997685d76b.jpg)
"Roedd o'n brofiad cyffrous, er nid o reidrwydd yn un da!" meddai Abbie Boniface
Roedd Mrs Boniface yn dychwelyd o wyliau yn Llangrannog gyda'i gŵr, dau o blant a'u ci pan benderfynon nhw stopio yn Ynyslas ar y ffordd adref.
Newydd adael y car oedden nhw pan gamodd y fam ar y neidr tra'n cerdded ar hyd y llwybr.
"Roedden ni'n cerdded ar hyd y byrddau pren pan nes i gamu ar y wiber. Doedd hi ddim yn hoffi hynny yn amlwg!" meddai.
"Roedd hi allan mewn man agored yn dal rhywfaint o haul - fel arfer maen nhw'n fwy swil na hynny."
![troed](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/164D9/production/_107535319_64898952_10213564790185540_794622709865644032_n.jpg)
Er mai bychan oedd y brathiad roedd yn ddigon i Abbie Boniface orfod mynd i'r ysbyty
Ar ôl chwilio am gyngor meddygol ynghylch brathiadau nadroedd fe ffonion nhw am ambiwlans, a bu'n rhaid i Mrs Boniface aros dros nos yn yr ysbyty wrth i gyflwr ei throed waethygu.
"Erbyn nos Sadwrn roeddwn i mewn poen sylweddol, roedd y rhan fwyaf o fy nhroed hyd at waelod fy nghoes wedi chwyddo - roedd o'n edrych fel maneg rwber wedi'i chwythu," meddai.
"Dwi dal methu gadael y tŷ ar hyn o bryd, ond dwi'n gwella rŵan."
Er gwaetha'r profiad mae'r teulu'n dweud eu bod nhw eisiau dychwelyd i Ynyslas eto - ond y byddan nhw dipyn yn fwy gwyliadwrus y tro nesaf.