'Angen ymgyrch farchnata i ddenu twristiaid i'r Rhondda'

  • Cyhoeddwyd
Cymoedd y Rhondda

Mae angen gwneud mwy i ddenu twristiaid at Gymoedd y Rhondda, yn ôl rhai o drigolion yr ardal.

Mae Newyddion 9 wedi clywed gan rhai o fusnesau lleol yn Nhreorci, sy'n galw ar Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar ymgyrch farchnata i'w gwneud yn fan ar gyfer ymwelwyr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r corff sy'n gyfrifol am ddenu twristiaid yng Nghymru - Croeso Cymru - yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol yn y Cymoedd ar hybu twristiaeth.

Maen nhw'n hefyd yn dweud eu bod am helpu cymunedau i fanteisio ar yr adnoddau naturiol a'r dreftadaeth sy'n rhan o ddiwylliant yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen marchnata'r Rhondda fel rhywle i ddod, meddai Grug Jones sy'n berchen ar siop fferm yno

"Mae 'na dwristiaid yn dod mewn ond fi'n gweld bod angen mwy o dwristiaid i ddod i'r ardal," meddai Grug Jones, perchennog Siop Fferm Cwm Rhondda.

"Mae angen mwy o signs iddyn nhw, mae angen mwy o bethau ar-lein - bod nhw'n gwybod am y llefydd i ddod i gerdded, i feicio. Oes, mae angen marchnata'r Rhondda fel rhywle i ddod."

Ac yn ôl Adrian Emmett, sy'n gadeirydd ar Siambr Fasnach Treorci, mae angen newid delwedd y Rhondda.

"Ein problem fwyaf yw ein delwedd i bobl o'r tu allan," meddai.

"Ond unwaith dewch chi yma, mae'n le grêt.... Mae gennym ni ddelwedd o rywle hen, diwydiannol gyda'r pyllau glo. Mae nawr yn rhywle o harddwch, newch chi gael trafferth i ddod o hyd i fwy o leoedd gwell ar gyfer twristiaid na faint sydd gennym ni."

Prosiectau newydd ar y gweill

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf fod nifer o brosiectau ar y gweill - fel datblygiad Zip-world yng ngogledd y sir, datblygu Twnnel y Rhondda i ymwelwyr a chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 2022.

"Mae hybu Rhondda Cynon Taf fel man unigryw, hanesyddol a deniadol i dwristiaid yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor hwn, meddai llefarydd.

"Mae'r Cyngor yn cydnabod y potensial ar gyfer twristiaeth yn y sir fel rhan o'i uchelgais ehangach i adfywio'r ardal."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Croeso Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol yn y Cymoedd ar hybu a datblygu twristiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tirluniau cymoedd y Rhondda bellach yn wahanol iawn i'r hyn oedden nhw ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf

"Yn ogystal ag ariannu prosiectau sy'n cefnogi blynyddoedd thematig Cymru, mae datblygiadau yn y Cymoedd hefyd yn rhan o'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth a ariennir gan yr UE - gan gynnwys ailddatblygu Rock UK yn Nhrelewis.

"Enghraifft arall o weithio mewn partneriaeth yw'r datblygiadau sy'n digwydd gyda Pharc Rhanbarthol y Cymoedd.

"Rydym am helpu cymunedau i ddathlu a manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau naturiol a'r dreftadaeth sydd wrth wraidd hunaniaeth a diwylliant y Cymoedd a defnyddio ein treftadaeth ddiwydiannol a'n tirwedd fel catalydd ar gyfer datblygiad yn y dyfodol."