Swyddfa gofrestu i symud i safle drws nesaf i ladd-dy
- Cyhoeddwyd
Bydd swyddfa gofrestru yn symud o ganol Llangefni i stad ddiwydiannol ar gyrion y dref - lathenni yn unig o ladd-dy.
Mae'n fwriad i symud cartref gwasanaeth cofrestru'r dref o Neuadd y Sir ar Ffordd Glanhwfa i Ganolfan Busnes Môn ar Barc Busnes Cefni.
Cafodd y penderfyniad ei ddatgelu gan Gyngor Môn ond mae aelodau Cyngor Tref Llangefni yn gwrthwynebu'r cynllun yn chwyrn.
Mae dirprwy faer Llangefni'n rhybuddio y gallai arogleuon o'r lladd-dy "ddifetha" diwrnodau priodas a phartneriaethau sifil.
Mae trigolion yn y dref hefyd wedi codi pryderon ynghylch "diffyg ymgynghori", yn ogystal â natur a chyfleustra'r lleoliad newydd.
'Difetha diwrnod mawr pobl'
Fe wnaeth y cyngor sir roi Neuadd y Sir ar werth y llynedd ac mae aelodau'r cyngor tref, sy'n rhannu'r adeilad gyda Chofrestrydd y sir, wedi beirniadu'r awdurdod.
Dywedodd y Maer, Margaret Thomas: "Fel trethdalwyr, oni ddylai ni fod wedi cael mynegi barn am hyn? Gyda pharch, dydi safle tu ôl i ffatri ieir ddim yn le delfrydol i gynnal priodasau, na tydi?"
Yn 2013, fe wnaeth y perchnogion ar y pryd, Vion, osod offer i reoli arogleuon wedi i drigolion lleol gwyno i Asiantaeth yr Amgylchedd bod aroglueon drwg yn dod o'r safle
Er hynny, mae dirprwy faer Llangefni'n dweud bod y broblem yn parhau a bod yr arogl "yn gallu bod yn ofnadwy".
Dywedodd Non Parry: "Sawl gwaith ydan ni wedi gorfod codi'r mater yma dros y blynyddoedd? Fe alla fo ddifetha diwrnod mawr pobl."
Mae Cyngor Môn yn mynnu ei fod wedi cadw i'w bolisi gwaredu asedau.
Dywedodd pennaeth yr adran rheolaeth a datblygu economaidd, Dylan Williams bod y ganolfan fusnes "yn adeilad cyfoes, eang gyda digon o lefydd parcio" a bod y safle "wedi cael cymeradwyaeth Swyddfa Gofrestru Gyffredinol y DU".