Y Cymro a adeiladodd America
- Cyhoeddwyd

Y pensaer Frank Lloyd Wright
Mae ymhlith y penseiri enwocaf a phwysicaf yn hanes America. Ond pa ddylanwad gafodd Cymru ar Frank Lloyd Wright, y pensaer o dras Cymreig?
Mae rhaglen newydd Frank Lloyd Wright: The man who built America yn edrych ar wreiddiau yr arloeswr a drawsnewidiodd bensaernïaeth Americanaidd yr ugeinfed ganrif gan gynllunio adeiladau eiconig fel Amgueddfa Guggenheim Efrog Newydd.
Dywedodd cyfarwyddwr y rhaglen Ian Michael Jones: "Roedd ganddo weledigaeth ac roedd yn gweld pensaernïaeth fel rhywbeth moesol. Roedd ganddo gefndir Cymreig a Chymraeg ac roedd teulu ei fam yn perthyn i enwad yr Undodwyr felly roedd yn gweld adeiladau fel rhywbeth oedd yn effeithio ar sut chi'n byw a gweld y byd.
"'Dyw pobl ddim yn ymwybodol o bwysigrwydd ei Gymreictod yn ei waith."
Gwreiddiau
Ganwyd Frank Lloyd Wright yn 1867 yn Richland Center, Wisconsin, yn fab i Anna Lloyd-Jones, Cymraes a ymfudodd i'r America gyda'i rhieni o Rydowen ger Llandysul.
Dywedodd Ian, mewn sgwrs ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru: "Ganwyd Anna Lloyd-Jones yn ffermdy Blaen yr Allt Ddu yn agos i Landysul ac roedd y teulu yn Undodwyr ac yn cymryd Cristnogaeth i'r eithaf.
"'Da ni ddim yn gwybod pam aeth y teulu i America ond roedd sôn bod nhw'n cael eu herlid oherwydd eu crefydd.
"Felly aethon nhw i America i fyw ac addoli fel oedden nhw eisiau. Symudon nhw i Wisconsin i ardal o'r enw The Valley, lle sefydlon nhw gymuned rhannol Gymreig. Yn y gymuned yna gath Frank Lloyd Wright ei fagu.
"Roedd y credoau yma o undodiaeth yn rhedeg trwy ei fywyd a'i waith."
Taliesin a'r Orsedd
Ac roedd dylanwad ei dras Cymreig hefyd yn amlwg, yn ôl Ian: "Taliesin oedd enw ei dŷ - roedd o isho cyfeirio nôl at Gymru, at ei fam a'r syniadaeth yma.
"Mae symbol tair llinell yr Orsedd wedi ei naddu o gwmpas y tŷ gan Frank Lloyd Wright a'i arwyddair oedd Truth Against the World - y gwir yn erbyn y byd [arwyddair yr Orsedd].
"Yn amlwg roedd y peth yma'n hollbwysig iddo fo."

Amgueddfa Guggenheim yn Efrog Newydd yw un o adeiladau enwocaf Frank Lloyd-Wright
Treftadaeth
Mae wyth o adeiladau Frank Lloyd Wright gan gynnwys Taliesin, ei gartref yn Wisconsin, newydd gael yr un statws a phyramidau'r Aifft a Machu Picchu wrth iddynt gael eu hychwanegu gan Unesco i restr treftadaeth y byd.
Galwodd y pensaer nifer o'i adeiladau yn Taliesin ac erbyn heddiw mae Cymrodoriaeth Taliesin yn byw a gweithio ar ystâd Taliesin lle mae ei dŷ wedi sefyll ers 1911, yn edrych dros y cwm lle sefydlodd ei hynafiaid Cymreig eu cymuned yn y 1860au.
Daeth Frank Lloyd Wright i Gymru unwaith yn arbennig i gael gradd ym Mhrifysgol Bangor yn y 1950au cynnar. Yn ystod y daith ymwelodd â'i ffrind, y pensaer Cymreig Clough Williams-Ellis, ac mae lluniau'n dangos y ddau bensaer ecsentrig yn eistedd ger ffynnon yng nghanol Portmeirion.

Fallingwater, un o dai mwyaf eiconig Frank Lloyd Wright
Oriel y Guggenheim yn Efrog Newydd yw un o'i adeiladau mwyaf enwog ond hoff adeilad Ian yw Fallingwater: "Mae'r tŷ mewn coedwig yn Pennsylvania a'r peth anhygoel amdano yw ei fod yn hofran uwchben rhaeadr. Mae'n edrych fel hud a lledrith. Mae'n anodd credu fod y peth yn go iawn, mae fel wythfed gwyrth y byd!
"Dw i'n meddwl fod o'n un o'r penseiri ac un o'r bobl mwyaf gwefreiddiol a bythgofiadwy - a dw i'n sôn nid yn unig am ei adeiladau ond am ei fywyd. Mae 'na andros o stori. Mae'r adeiladau yn rhagorol."