Heol eiconig Mynydd Du yn dathlu pen-blwydd yn 200
- Cyhoeddwyd
Mae un o ffyrdd mwyaf eiconig Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed.
Mae Ffordd y Mynydd Du yn heol 20 milltir o hyd ar yr A4069 rhwng Llangadog a Brynaman yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd ei anfarwoli gan Bois y Blacbord yn y gân 'Dros y Mynydd Du o Frynaman' a daeth hefyd i amlygrwydd yn y rhaglen Top Gear yn 2011.
Gan ei bod yn cynnwys nifer o droeon a golygfeydd godidog mae'n atynfa i ohebwyr cylchgronau ceir, beicwyr a'r sylwebydd moduro Jeremy Clarkson.
Mae gwefan moduro Dangerous Roads yn ei disgrifio fel "ffordd sy'n cynnwys y pum milltir mwyaf cofiadwy yn y byd i yrru arni".
Tan yn ddiweddar ychydig oedd pobl yn gwybod am hanes y ffordd, ond mae Aldwyth Rees Davies wedi bod yn ymchwilio i hanes y ffordd am chwe blynedd ac wedi ysgrifennu llyfr.
Mae hi bellach yn byw yng Nghaerfaddon ond mae ei theulu yn dod o naill ochr i'r Mynydd Du.
"O'n i am i fy mhlant wybod mwy am yr ardal," meddai.
Mae ei llyfr 'When Men and Mountains Meet' yn cael ei gyhoeddi'r mis hwn gan Y Lolfa ac yn sôn am hanes dau ddyn lleol, tad a mab, y ddau o'r enw John Jones Bryn-brain.
Y tad oedd yr ariannwr, a'r mab oedd yr adeiladwr.
Fe wnaeth Aldwyth ddod o hyd i Deddf Tyrpeg 1813 oedd yn caniatáu i'r ffordd gael ei hadeiladu.
Roedd angen y ffordd er mwyn symud glo o byllau John Jones (y tad) o Frynaman i odynnau calch ar ben y mynydd.
Yna roedd angen symud y calch lawr ochr arall y mynydd ar gyfer y diwydiant amaeth. Cafodd y ffordd ei chwblhau yn 1819.
"Roedd y chwyldro diwydiannol yn dod ac mi symudodd hyn bethau ymlaen," meddai Ms Davies.
"Roedd angen i bobl leol gymryd risg ac i fuddsoddi a dyna beth wnaeth y ddau yma. O ni am ddathlu eu llwyddiant a phen-blwydd y ffordd."
Dywedodd Ms Davies y dylid gwneud mwy i farchnata'r ffordd fel atyniad twristiaeth.
"Mae'n dechrau dod yn fwy poblogaidd - mae'n dod yn brysurach ond byddan nhw'n gallu rhoi plac i fyny sy'n dweud fod y ffordd yn 200 oed," meddai.