Y Goruchaf Lys yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y Goruchaf Lys gwrdd yn adeiladu'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd
Wrth i'r Goruchaf Lys eistedd yng Nghymru am y tro cyntaf, dywedodd ei lywydd ei bod hi'n bwysig bod achosion yn cael eu clywed ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.
Wedi iddi eistedd yng Nghaeredin a Belfast yn y gorffennol, dyma'r trydydd tro i'r llys gyfarfod y tu allan i Lundain ers ei sefydlu'n 2009.
Y Goruchaf Lys yw llys apêl ucha'r wlad.
Mae'n dyfarnu ar achosion sifil a throseddol ac yn ystyried cwestiynau am bwerau datganoledig.

Mae'r Farwnes Hale wedi bod yn llywydd y llys ers Medi 2017
"Ni yw'r Goruchaf Lys ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan," meddai'r Farwnes Hale wrth BBC Cymru.
"Ac rydyn ni'n ymwybodol iawn bod y Deyrnas Unedig yn fwy na Llundain - yn fwy na Lloegr.
"Mae'n cynnwys Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ac rydyn ni eisiau gwneud hynny'n glir drwy ddod allan a dangos y gwaith rydyn ni'n ei wneud ym mhob un o brifddinasoedd y Deyrnas Unedig.
"Gall unrhyw un, unrhyw le ar draws y byd ddilyn ein hachosion [ar y we]… ond does dim byd fel bod yma mewn person, hyd yn oed os ydy'r hyn sy'n digwydd yma'n hynod o ddiflas."
Fel rhan o ymweliad y llys â Bae Caerdydd mae arddangosfa dros dro i egluro'i waith ar agor i'r cyhoedd yn adeilad Tŷ Hywel.

Yn ôl yr Arglwydd Lloyd-Jones mae gan y Goruchaf Lys awdurdodaeth arbennig dros faterion yn ymwneud â datganoli
Yn wreiddiol o Bontypridd, yr Arglwydd Lloyd-Jones oedd y barnwr cyntaf o Gymru i gael ei benodi i'r Goruchaf Lys yn 2017.
"Mae gyda ni awdurdodaeth arbennig dros faterion yn ymwneud â datganoli ac mae'r Goruchaf Lys wedi gwrando ar dri achos yn ymwneud â deddfwriaeth sydd wedi ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae'n hollbwysig bod y mecanwaith yna'n bodoli," meddai.
"Mae'n rhan bwysig o'n hawdurdodaeth ni. Mae'n gywir os taw ni yw'r llys apêl uchaf ar gyfer Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru ein bod ni'n eistedd drwy'r cenhedloedd yna."
Ychwanegodd yr Arglwydd Lloyd-Jones ei bod hi'n "bleser mawr" bod 'nôl yng Nghymru.
'Gelynion y bobl'
Mae ail farnwr o Gymru - yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd - hefyd wedi bod ar y panel yr wythnos hon.
Roedd e'n un o'r barnwyr gafodd eu disgrifio fel "gelynion y bobl" gan y Daily Mail yn 2016 ar ôl i'r Uchel Lys ddyfarnu y byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau sêl bendith Aelodau Seneddol cyn tanio proses Brexit.
Yn ateb cwestiwn am natur y gohebu yna dywedodd yr Arglwydd Lloyd-Jones ei fod e a'i gydweithwyr yn "bryderus iawn".
Ond ychwanegodd bod hygyrchedd y trafodion pan gafodd yr achos ei basio'n hwyrach i'r Goruchaf Lys wedi rhoi cyfle i'r cyhoedd weld bod y barnwyr "yn gwneud eu gorau glas i ddod i'r penderfyniad cywir ar fater cyfansoddiadol anodd iawn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2016