Dyn 70 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Cafodd Ffordd y Gadeirlan ei chau i'r ddau gyfeiriad wedi'r gwrthdrawiad
Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd brysur yng nghanol Caerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'w digwyddiad ar Ffordd y Gadeirlan ym Mhontcanna am 17:44.
Roedd nifer o gerbydau yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Cafodd dau ambiwlans ac un parafeddyg arall eu gyrru i'r digwyddiad.
Bu farw dyn 70 yn y fan a'r lle, ond does dim adroddiadau am unrhyw anafiadau eraill.
Mae Ffordd y Gadeirlan wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad i'r de o'r gyffordd â Chlos Soffia.