Cofio'r sgriptwraig, awdur a golygydd Delyth George
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r sgriptwraig, awdur a golygydd Delyth George yn 58 oed wedi salwch byr.
Fe weithiodd fel sgriptwraig ar y gyfres sebon Pobol y Cwm, un o gyfresi'r ddrama gyfnod Y Palmant Aur a rhaglenni teledu plant.
Cyhoeddodd nofelau ar gyfer oedolion a phobl ifanc ynghyd ag addasiadau Cymraeg o straeon plant, ac fe olygodd nifer o gasgliadau o straeon byrion.
Hi hefyd oedd golygydd y gyfrol am Islwyn Ffowc Elis yng nghyfres Llên Y Llenor Gwasg Pantycelyn.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, Cefneithin yn Sir Gaerfyrddin, fe astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a chael doethuriaeth ar ôl astudio'r pwnc o serch a rhamant yn y nofel Gymraeg.
Fe dreuliodd gyfnod hefyd yn gweithio fel golygydd i Gyngor Llyfrau Cymru cyn symud i Gaerdydd.
Dywedodd Nest Gwenllian Roberts, cynhyrchydd cyfres Pobol y Cwm: "Roedd Delyth yn rhan o dîm 'sgwennu Pobol y Cwm am dros 20 mlynedd a mawr fu ei chyfraniad yn ystod y cyfnod.
"Bu i'w chyfraniad i fyd llenyddol a chelfyddydol Cymru ymestyn ymhellach, wrth gwrs a'i dylanwad yn sylweddol fel awdur a golygydd toreithiog.
"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i'w theulu o ffrindiau."
'Trylwyr, brwd, hyfryd a chynnes'
Roedd William Gwyn yn cynhyrchu Pobol Y Cwm am gyfnod yn y 1990au tra roedd Delyth George yn sgriptio ar gyfer y gyfres, ac "yn ei nabod ers dyddiau coleg".
"Trylwyr oedd y gair wrth feddwl amdani," meddai. "Roedd hi'n frwd dros bopeth roedd hi'n ei wneud, ac yn genedlaetholwraig."
Gwasg Gomer oedd cyhoeddwyr ei nofel i oedolion Gwe o Gelwyddau a'r nofel i ddarllenwyr yn eu harddegau, Tebyg at ei Debyg?
Mae'r cwmni wedi cadarnhau ei bod wedi bod "yn gweithio ar nofel oedd yn ddilyniant i Gwe o Gelwyddau" yn y cyfnod cyn ei salwch.
Dywedodd pennaeth cyhoeddi Gwasg Gomer, Meirion Davies: "Roedd hi'n berson hyfryd i weithio â hi. Roedd ganddi synnwyr digrifwch tawel a ffordd gynnes iawn o ymwneud â phobl."