Adran Dau: Cambridge United 0-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Chwaraewyr Casnewydd yn atal ymosodiad cynnar gan Cambridge United
Mae Casnewydd wedi cael ail gêm gyfartal yn olynol yn Adran Dau ar ddechrau'r tymor newydd.
Cafodd Padraig Amond a Danny McNamara gyfleoedd yn gynnar yn y gêm i roi'r Alltudion ar y blaen.
Daeth Joss Labadie'n agos at sgorio ar ddau achlysur - gyda pheniad yn y lle cyntaf ac yna ergyd a gafodd ei hanelu ochor anghywir y postyn.
Cafodd ymdrech arall gan Robbie Willmott ei atal gan Dimitar Mitov yn y gôl i'r tîm cartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2019