Angen mwy o bobl i fyw ar Ynys Enlli
- Cyhoeddwyd
Mae teulu a ddewiswyd o gannoedd o bobl i fyw ar Ynys Enlli yn dweud bod angen i bobl fyw ar yr ynys gydol y flwyddyn.
Cafodd Ned a Sophie Scharer eu dewis i fod yn wardeiniaid ar yr ynys ond bu'n rhaid iddynt adael ddiwrnodau wedi iddynt gyrraedd am bod eu mab wedi'i anafu ar y traeth.
Symudodd Mr a Mrs Scharer a'u plant Sam, 10 a Rowan, 12 o gyrion Betws-y-coed i Ynys Enlli ym mis Chwefror.
Dywedodd Mrs Scharer: "Fe wnaeth anaf ein mab wneud i ni sylweddoli yn eitha buan bod yr ynys angen cymuned - mae angen mwy o bobl i fyw yno er mwyn cefnogi a helpu ei gilydd."
Fe wnaeth Mr Scharer aros ar yr ynys er mwyn paratoi ar gyfer dyfodiad y twristiaid.
Rhan o ddyletswyddau y wardeiniaid yw paratoi deg cartref ar yr ynys ar gyfer ymwelwyr a darparu adloniant.
Ar un adeg roedd dros gant o bobl yn byw ar Ynys Enlli.
Wedi iddo gael trefn ar y tai dewisodd Mr Scharer fynd adref am nad oedd wedi gweld ei deulu ers cryn amser.
Dywedodd: "Mae'r ynys angen pobl ac mae'r tai 'ma angen pobl. Mae'r ynys angen pobl gydol y flwyddyn.
"Mi fyddai modd rhoi pump o'r tai i breswylwyr parhaol - ac mi fyddai rheiny yn gallu rhentu rhan o'r tai ar gyfer gwyliau."
Mae Gareth Roberts sy'n ffermio'n rhannol ar yr ynys a Colin Evans sy'n hwylio'r cwch hefyd yn credu bod angen mwy o bobl.
Dywedodd Mr Evans: "Cafodd Sam druan ddamwain - petai yna fwy o bobl yn byw yma byddid o bosib wedi gallu delio â phopeth yn well.
"Dywedodd Ned wrthyf ei fod yn credu bod yr ynys yn unig a dwi wedi credu hynny ers blynyddoedd.
"Y mwyaf o bobl sydd yma - gorau'i gyd - mae hynny'n haws i bawb."
Dywedodd Mr Roberts: "Petai mwy o bobl yma efallai byddai'r gefnogaeth wedi cadw y teulu yma."
Bydd modd clywed mwy o'r hanes ar raglen Our Lives: Our Island Home ar BBC 1 am 19:30 ddydd Llun 12 Awst
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2019
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2018