Toriad cyflenwad trydan yn amharu ar raglenni BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyflenwad trydan yn cael ei adfer yn raddol i'r ganolfan ddarlledu yn Llandaf
Mae problemau technegol wedi atal BBC Cymru rhag darlledu nifer o raglenni nos Wener wedi toriad yn y cyflenwad trydan ym mhencadlys y gorfforaeth yng Nghaerdydd.
Roedd Radio Cymru oddi ar yr awyr am gyfnod wedi 18:15 cyn dechrau darlledu'n fyw o Fangor ar FM yn unig, a chafodd prif raglen Newyddion 9 nos Wener mo'i darlledu ar S4C.
Cafodd rhaglen newyddion nosweithiol Gogledd Iwerddon ei darlledu yn slot arferol Wales Today gan fod hi'n amhosib rhoi'r rhaglen ar yr awyr.
Mae gwasanaethau Radio Cymru a Radio Wales bellach wedi eu hadfer ar FM ac ar DAB, ac mae BBC1 Wales hefyd bellach yn ôl ar yr awyr gyda chymorth adnoddau argyfwng ym Melffast.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd y ganolfan heb drydan am ryw awr, ond mae cwmni Western Power Distribution yn dweud nad ydyn nhw'n ymwybodol o unrhyw broblemau.
Dywedodd BBC Cymru mewn datganiad: "Oherwydd methiant pŵer, mae gwasanaethau BBC Cymru wedi eu tarfu. Mae staff technegol yn gweithio i ddatrys y mater."
Roedd gwasanaethau wedi eu hadfer mewn pryd i ddarlledu bwletin hwyr Wales Today am 22.35.

Rhan o'r ganolfan ddarlledu mewn tywyllwch wedi'r toriad yn y cyflenwad trydan
Mae Radio Cymru wedi cadarnhau y bydd rhifyn cyntaf rhaglen jazz newydd Tomos Williams, oedd wrthi'n cael ei darlledu nos Wener "i'w chlywed nos Wener nesaf am 18:00, gyda'r gyfres gyfan yn dilyn yn wythnosol ar ôl hynny - gydag ymddiheuriadau am y problemau technegol heno".
Mae'r rhaglen eisoes ar gael ar BBC Sounds.