Y pêl-droedwyr Cymreig alltud
- Cyhoeddwyd
Y penwythnos yma mae disgwyl i Aaron Ramsey chwarae ei gêm gyntaf dros Juventus yn Serie A, cynghrair cenedlaethol Yr Eidal.
Mae'n dilyn olion traed dau Gymro arall a chwaraeodd dros gewri Turin: John Charles ac Ian Rush.
Ond mae nifer fawr o Gymry eraill wedi mynd dramor i chwarae pêl-droed tu hwnt i ynysoedd Prydain dros y blynyddoedd. Dyma ddetholiad o rai ohonynt.
John Charles: Juventus, Yr Eidal (1957-62)
Barn nifer yw mai John Charles yw'r chwaraewr gorau yn hanes Cymru ac, yn 1997, cafodd ei enwi fel y chwaraewr tramor gorau erioed i chwarae dros glwb Juventus - tipyn o ddweud o ystyried bod Juventus yn un o glybiau mwya'r byd, sydd yn cynnwys Zinedine Zidane a Michel Platini ymhlith eu cyn-chwaraewyr tramor.
Yn ystod ei bum mlynedd gyda'r clwb rhwng, sgoriodd Charles 108 gôl mewn 155 gêm gynghrair wrth i Juve ennill y Serie A (Uwch Gynghrair Yr Eidal) dair gwaith a'r Cwpan Eidalaidd ddwywaith.
Mark Hughes: Barcelona, Sbaen (1986-88), Bayern Munich, Yr Almaen (1987-88)
Arwyddodd Mark Hughes dros Barcelona ar ôl chwe blynedd lwyddiannus gyda Manchester United. Cafodd Hughes efallai ddim gymaint o lwyddiant yng Nghatalonia ac fe dreuliodd ei ail dymor ar fenthyg gyda Bayern Munich.
Ar 11 Tachwedd 1987, chwaraeodd Hughes ddwy gêm mewn un diwrnod - dros Gymru yn Czechoslovakia ac, ar ôl dal awyren, dros Bayern yn erbyn Borussia Mönchengladbach.
Ian Rush: Juventus, Yr Eidal (1986-87)
Ian Rush oedd un o ymosodwyr gorau'r byd pan ymunodd â Juventus o Lerpwl yn 1986, ond roedd ei amser yn Turin yn gymysglyd. Sgoriodd Rush 14 gôl mewn 39 ymddangosiad dros Juve - gyda saith ohonyn nhw mewn 29 gêm gynghrair. Roedd wedi sgorio llawer mwy o goliau yn y tymor blaenorol gyda Lerpwl (40), ond ar y pryd, roedd Serie A yn enwog am fod yn gynghrair hynod amddiffynnol.
Wedi ei gyfnod yn Yr Eidal fe ail-ymunodd Rush â Lerpwl gan aros gyda'r clwb tan 1996.
Mark Pembridge: Benfica, Portiwgal (1998-99)
Dechreuodd y chwaraewr canol cae o Ferthyr Tudful ei yrfa gyda Luton Town yn 1989, pan oedd y clwb ym mhrif adran Lloegr. Aeth ymlaen i chwarae dros Derby County, Sheffield Wednesday, Everton a Fulham. Ond am dymor roedd yn chwarae dros glwb Sport Lisboa e Benfica ym mhrifddinas Portiwgal, Lisbon.
Cafodd 54 o gapiau dros Gymru gan sgorio chwe gwaith.
Jess Fishlock: AZ Alkmaar (2008-10), Melbourne Victory (2012-13 a 2013-14), Seattle Reign (2013- ), Frankfurt (2014-15), Melbourne City (2015-18), Lyon (2018- )
Jess Fishlock yw'r unig chwaraewr - benywaidd neu wrywaidd - i ennill 100 o gapiau dros Gymru, ac mae wedi cynrhychioli llu o glybiau tramor gwahanol.
Mae hi wedi ennill cynghreiriau yn yr Iseldiroedd, Awstralia, Yr Unol Daleithiau, Ffrainc a'r Almaen. Fe wnaeth hi hefyd ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda Lyon yn 2018-19.
Gareth Bale: Real Madrid, Sbaen (2013- )
Gareth Bale oedd y chwaraewr drytaf yn y byd pan symudodd o Tottenham Hotspur i Real Madrid yn 2013.
Mae Bale wedi bod yn hynod llwyddiannus gyda'r clwb, gan ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith mewn pum mlynedd - a sgorio yn y rownd derfynol ddwywaith, gan gynnwys gôl acrobataidd wych yn y ffeinal yn erbyn Lerpwl yn 2018. Mae Bale eisoes wedi sgorio dros 100 o goliau dros Los Blancos.
Er ei fod wedi cael perthynas eithaf tanllyd gyda chefnogwyr a bwrdd rheoli'r clwb, mae'r rheolwr presennol, Zinadine Zidane, wedi dweud y bydd gan Bale ran allweddol i'w chwarae yn y garfan y tymor hwn.
James Lawrence: AS Trenčín, Slovakia (2014-2018), Anderlecht, Gwlad Belg (2018- )
Mae James Lawrence wedi bod yn ffefryn yn amddiffyn Cymru'r tymor yma ac mae eisoes wedi ennill pum cap. Dechreuodd ei yrfa ieuenctid gyda chlybiau Arsenal a QPR yn Llundain, cyn symud i'r Iseldiroedd yn hogyn ifanc a chwarae gyda HFC Haarlem, Ajax ac Sparta Rotterdam.
Wedi pedair blynedd yn Slovakia mae bellach wedi ymgartrefu yng Ngwlad Belg gyda Anderlecht. Cymro arall sydd ym Mrwsel gyda chlwb Anderlecht yw Craig Bellamy, sy'n rheolwr ar y tîm dan 21 yno.
Ethan Ampadu: RB Leipzig, Yr Almaen (2019- )
Deunaw oed yw Ethan Ampadu, ond mae llawer yn proffwydo dyfodol hynod ddisglair i'r chwaraewr sy'n gallu chwarae yng nghanol cae ac yn yr amddiffyn.
Ar fenthyg yn Yr Almaen mae Ampadu o glwb Chelsea, ac mae siawns iddo gael cyfle i chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr gyda'i glwb eleni, RB Leipzig.
Aaron Ramsey: Juventus, Yr Eidal (2019- )
Roedd Aaron Ramsey o Gaerffili yn rhan o system ieuenctid Caerdydd ond gadawodd am Arsenal pan oedd yn 17 mlwydd oed.
Wedi 11 tymor gyda'r Gunners penderfynodd Ramsey ymuno â Juventus, sydd yn cynnwys sêr fel Cristiano Ronaldo, Juan Cuadrado ac Adrien Rabiot. Yn ôl adroddiadau mae cytundeb Ramsey'n golygu y bydd yn ennill tua £400,000 yr wythnos yn Turin.
Joe Ledley: Pafos FC, Cyprus (2019-)
Mae Joe Ledley wedi ennill 77 cap dros Gymru ac roedd yn rhan allweddol o garfan Cymru ym Mhencampwriaethau Euro 2016 ac yn ffefryn gyda chefnogwyr y genedl.
Wedi iddo chwarae dros ei ddinas enedigol, Caerdydd, aeth Ledley ymlaen i chwarae dros Celtic, Crystal Palace a Derby County.
Ar hyn o bryd mae Ledley ar brawf gyda chlwb Pafos FC yn Cyprus.
Chwaraewyr eraill i'w nodi:
Dai Astley: FC Metz, Ffrainc (1946-47)
Trevor Ford: PSV Eindhoven, Yr Iseldiroedd (1957-60)
Vinnie Jones: IFK Holmsund, Sweden (1986)
Dean Saunders: Galatasaray S.K. Twrci (1995-96), Befnica, Portiwgal (1998-99)
Andy Marriott: S.C. Beira-Mar, Portiwgal (2003-04)
Craig Davies: Hellas Verona, Yr Eidal (2006-07)
David Vaughan: Real Sociedad, Sbaen (2007-08)
Carl Robinson: Toronto FC, Canada (2007-10), New York Red Bulls, UDA (2010-11)
Mika Chunuonsee: Nifer o dimau yn y dwyrain pell (2009- ), tîm cenedlaethol Gwlad Thai (2015- )
Rhys Weston: Knattspyrnufélag Reykjavíkur, Gwlad yr Iâ (2012), Sabah FA, Malaysia (2012)
Robert Earnshaw: Maccabi Tel Aviv F.C., Israel (2012-13), Toronto, Canada (2013), Chicago Fire Soccer Club, UDA (2014), Vancouver Whitecaps FC, Canada (2015)
Simon Church: Roda JC Kerkrade, Yr Iseldiroedd (2016-17)
Matthew Smith: Twente, Yr Iseldiroedd (2018-19)
Rabbi Matondo: Schalke 04, Yr Almaen (2019- )
Peyton Vincze: Oklahoma State Cowgirls, UDA (2019- )