Cymru 1-0 Belarws

  • Cyhoeddwyd
dathlu gol daniel jamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Allen, capten Cymru ar y noson, yn llongyfarch Daniel James am ei gôl

Serennodd Daniel James i Gymru unwaith eto wrth iddyn nhw drechu Belarws o 1-0 i sicrhau eu hail fuddugoliaeth o'r wythnos.

Ar ôl i'r crysau cochion ei gadael hi'n hwyr wrth guro Azerbaijan nos Wener, sicrhaodd gôl gynnar asgellwr Manchester United na fyddai diweddglo mor nerfus i'r gêm hon.

Roedd hi'n un i'w chofio hefyd, wrth i James wyro ergyd wych o ymyl y cwrt cosbi i gornel bellaf y rhwyd o flaen torf o 7,666 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe wnaeth y rheolwr Ryan Giggs bum newid i'w dîm ar gyfer y gêm gyfeillgar, gyda Danny Ward, Ben Davies a Jonny Williams yn dod i mewn, a chapiau cyntaf hefyd i Kieffer Moore a Joe Morrell.

Digon o gyfleoedd

Gyda chwaraewyr profiadol fel Gareth Bale, Wayne Hennessey a Neil Taylor wedi'u henwi ar y fainc, rhoddwyd y gapteiniaeth i Joe Allen - un o ddau chwaraewr yn unig yn yr 11 cyntaf oedd â dros 20 o gapiau.

Ond fe ddangosodd y tîm ifanc ddigon o addewid yn y munudau agoriadol, gyda Harry Wilson yn cael y cyfle clir cyntaf ond yn ergydio'n syth am y golwr.

Daeth y gôl wedi 17 munud wrth i Williams fwydo James ar ochr chwith y cwrt cosbi, ac fe wnaeth yr asgellwr yn dda i agor bwlch i'w hun cyn tanio â'i droed dde.

Parhaodd Cymru i gadw meddiant yn dda a chreu cyfleoedd pellach, gyda James a Williams yn ddisglair wrth geisio canfod bylchau yn amddiffyn yr ymwelwyr.

Bu bron iddyn nhw ddyblu'r fantais ar ddechrau'r ail hanner wrth i groesiad Wilson daro'r postyn, cyn i Moore fethu gyda pheniad o ryw chwe llathen.

Cafodd Bale hefyd gyfle euraid ar ôl dod ymlaen fel eilydd, ond fe daniodd ei ergyd dros y trawst ar ôl i Wilson roi'r bêl ar blât iddo.

Daeth cyfleoedd pellach i Allen a Williams, ac er gwaethaf y sgôr agos, digon cyfforddus oedd y fuddugoliaeth i'r crysau cochion yn y diwedd wrth iddyn nhw gyfyngu Belarws i ychydig iawn o gyfleoedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Methodd Gareth Bale gyfle gorau Cymru yn yr ail hanner

Ar noson ble nad oedd Cymru'n chwarae gêm gystadleuol, roedd gan weddill eu gwrthwynebwyr yng Ngrŵp E gemau rhagbrofol yn y ras i gyrraedd Euro 2020.

Llwyddodd Azerbaijan i gipio canlyniad cyfartal gartref yn erbyn Croatia, tra bod Slofacia wedi ennill o 2-1 oddi cartref yn Hwngari.

Mae'n golygu bod Cymru bellach bedwar pwynt y tu ôl i Groatia ar y brig, a thriphwynt y tu ôl i Slofacia a Hwngari, ond wedi chwarae gem yn llai na phob un ohonynt.