Cyn-gapten Cymru Gareth Thomas yn datgelu fod ganddo HIV

  • Cyhoeddwyd
Gareth ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Thomas ei fod wedi teimlo "ofn" a "chywilydd" o gadw ei gyflwr yn gyfrinach

Mae'r cyn-seren rygbi Gareth Thomas wedi datgelu ei fod yn HIV positif, gan ddweud ei fod am "dorri stigma" y cyflwr.

Cyhoeddodd y newyddion wrth iddo baratoi i gymryd rhan yn nhriathlon Ironman Cymru yn Ninbych-y-pysgod ddydd Sul ac yr oedd yna lawer o gefnogaeth iddo yn ystod yr ornest.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Thomas yn derbyn cefnogaeth yn ystod triathlon Ironman Cymru

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Shane Williams yn cyfarch Gareth Thomas wedi iddo gwblhau'r ornest ddydd Sul

Dywedodd Thomas, 45, ei fod eisiau cwblhau'r ras eithafol i ddangos bod pobl gyda HIV yn cael eu "cam-gynrychioli" fel cleifion sy'n agos at farw.

At ddiwedd y ras ddydd Sul roedd emosiwn yn drech na Gareth Thomas wrth iddo weld ei ŵr Stephen.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Thomas ar ddiwedd yr ornest wrth iddo weld ei ŵr

Mae hefyd wedi siarad am yr "ofn" a'r "cywilydd" o gadw ei gyflwr yn gyfrinach.

'Gwaddol o gamddealltwriaeth'

Mae'r cyn-chwaraewr rhyngwladol wedi ffilmio rhaglen ddogfen am ei gyflwr i'r BBC.

Ynddo, mae'n dweud ar ei bwynt isaf yn 2018 ei fod wedi teimlo fel marw.

Dywedodd bod ymgyrchoedd gwybodaeth cyhoeddus yr 1980au, oedd yn rhybuddio pobl i'w hamddiffyn eu hunain yn erbyn Aids, wedi creu gwaddol o gamddealltwriaeth.

Diolch i ddatblygiadau meddygol, gall pobl gyda HIV fyw bywyd hir ac iach.

Mae triniaeth effeithiol yn golygu ni all y firws cael ei drosglwyddo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gareth Thomas ennill 100 o gapiau dros Gymru

Heblaw am ddeffro am 06:00 i gymryd tabled bob bore ac ymweld â'r ysbyty i gael prawf gwaed bob chwe mis, nid yw'r cyflwr yn cael fawr o effaith ar fywyd dyddiol Thomas.

I'r gwrthwyneb, mae cymryd rhan yn her Ironman, oedd yn golygu ei fod yn gorfod dysgu sut i nofio, yn ffordd i Thomas dangos ei gryfder corfforol a meddyliol.

'Gorfod byw gyda HIV'

"Pan wnes i ddarganfod gyntaf fy mod i'n mynd i orfod byw gyda HIV, y peth cyntaf nes i feddwl yn syth oedd 'dwi'n mynd i farw'," meddai.

"Mae hwn yn bwnc nad yw pobl, oherwydd senarios yr 80au, yn siarad amdano oherwydd dyna'r unig wybodaeth sydd ganddyn nhw."

Dywedodd Thomas fod datgelu ei fod yn byw gyda HIV yn debyg i ddod allan yn hoyw yn 2009 oherwydd "yr ofn, y cuddio, y cyfrinachedd, dim gwybod sut oedd pobl yn mynd i ymateb".

Mae Thomas yn byw ger Pen-y-bont ar Ogwr gyda'i ŵr Stephen, 56. Fe briodon nhw yn 2016.

Yn y ffilm, mae Stephen yn siarad am sut y bydd y cyhoedd yn ymateb i gyhoeddiad ei ŵr a sut y bydd y cwpl yn cael eu trin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gareth Thomas gwrdd â'r prif weinidog ar y pryd, David Cameron, yn 2011 i drafod agwedd y byd chwaraeon tuag at bobl hoyw

Mae'r rhaglen yn dangos Thomas yn trafod sut i wneud y cyhoeddiad.

Ar ôl i bapurau newydd ddarganfod ei gyfrinach roedd newyddiadurwyr y tu allan i gartref ei rieni Yvonne a Barrie, meddai.

"Roedd angen i mi gymryd rheolaeth ar fy mywyd," meddai Thomas.

Yn y ffilm mae e hefyd yn ymddiried yn Shane Williams, cyn-chwaraewr rhyngwladol sydd nawr yn driathletwr amatur brwdfrydig.

'Herio'r stigma'

Dywedodd Ian Green, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, sy'n rhoi cymorth i bobl sydd â HIV: "Mae Gareth yn dystiolaeth na ddylai diagnosis o HIV eich atal rhag gwneud unrhyw beth rydych chi eisiau ei wneud - beth bynnag ydy hynny.

"Rwy'n gobeithio trwy siarad yn gyhoeddus am hyn y bydd Gareth yn trawsnewid agweddau tuag at HIV, sydd yn rhy aml yn dyddio nôl i'r 1980au.

"Rydyn ni wedi gwneud camau enfawr ymlaen yn feddygol yn y frwydr yn erbyn HIV, sy'n golygu bod pobl fel Gareth nawr yn byw bywydau hir ac iach.

"Gallwn hefyd ddweud, heb unrhyw amheuaeth, bod y rheiny sydd ar driniaeth HIV effeithiol ddim yn gallu pasio'r firws ymlaen.

"Dyna union y math o wybodaeth mae Gareth eisiau ei gael allan 'na er mwyn herio'r stigma sy'n parhau ynglŷn â'r firws."

Gareth Thomas: HIV and Me, BBC One Wales am 21:00 nos Fercher, 18 Medi.