Y Tri yn Un
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y rheiny ohonoch sy'n mwynhau diwinyddiaeth ac sy ddim yn Undodiaid yn gyfarwydd â chysyniad y Drindod Sanctaidd sef Duw'r Tad, y Mab a'r Ysbryd Glan a bod y tri yn un a'r un yn dri ar yr un pryd.
Mae angen rhyw fath o ddealltwriaeth felly wrth ystyried y berthynas rhwng y Blaid Lafur, Llafur Cymru a Llafur yr Alban.
Haeriad Plaid Cymru a'r SNP ers tro yw mai brandiau yn hytrach na phleidiau yw Llafur Cymru a Llafur yr Alban a than yn ddiweddar iawn roedd statws cyfansoddiadol y ddwy uned Geltaidd yn amwys a dweud y lleiaf. Y cyfan oedd gan gyfansoddiad y blaid, y Llyfr Rheolau i ddweud amdanynt oedd nodi'r ffaith eu bod yn bodoli.
Fe geisiwyd rhoi ychydig o gnawd ar yr esgyrn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dyma, er enghraifft sydd gan y Llyfr Rheolau i ddweud ynghylch dewis ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad a Senedd y DU.
The NEC, Scottish and Welsh Executive Committees shall issue procedural rules and guidelines and the timetable for the selection of candidates for Westminster Parliament elections. The Scottish and Welsh Executive Committees will be responsible for administering the selection of Westminster Parliamentary Candidates in Scotland and Wales subject to rules detailed in 2-11 below.
Roedd Llafur Cymru wedi gobeithio defnyddio'r hawl yna i wneud hi'n anoddach i bleidiau lleol ddad-ddewis Aelodau Seneddol nac yw hi yn Lloegr.
Dim ffiars o beryg oedd ymateb y Pwyllgor Gwaith Prydeinig. Efallai bod gennych chi'r hawl i osod y rheolau i ddewis ymgeiswyr ond dyw hynny ddim yn cynnwys y rheolau i'w dad-ddewis nhw.
Eto, mae'r ddadl honno'n atgoffa dyn o ryw anghytundeb diwinyddol ynghylch union ystyr rhyw adnod neu'i gilydd ond mae'n profi taw ar ddiwedd y dydd y Blaid Brydeinig sydd â'r gair olaf ynghylch y pethau hyn.
Gadewch i ni ystyried felly e-bost a ddanfonwyd i holl aelodau Llafur Cymru gan eu harweinydd heddiw.
Cewch chi benderfynu os oes angen dyfynodau yn y frawddeg honno ond dyma oedd gan Mark Drakeford i'w ddweud.
Welsh Labour believes that Wales' best interests will only be served by remaining in the European Union. We campaigned for a remain vote in the 2016 referendum and nothing we have seen or learned in the three years' since has changed our minds...
Labour has made an unequivocal commitment to put the Brexit decision back to the people. In that referendum, we, as Welsh Labour, must and will campaign to remain in the EU.
Mae'r rheiny yn eiriau digon plaen ond fe fydd maniffesto'r blaid Brydeinig yn addo rhywbeth cyfan gwbl gwahanol ac yn llawer llai brwd dros aros. Fe fydd ymgeiswyr seneddol Llafur Cymru yn sefyll ar y maniffesto hwnnw hefyd.
Beth mae'r etholwyr i fod i feddwl felly? Pa faniffesto sy'n cyfri?
Ar ôl digwyddiadau ddoe a chan nad oes chwip ar wahân gan Lafur Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin rhaid yw dod i'r casgliad taw geiriau'r blaid Brydeinig yw'r rhai sy'n cyfri mewn gwirionedd.