Cyhuddo ymosodwr Cymru, Tom Lawrence o yfed a gyrru

  • Cyhoeddwyd
Tom LawrenceFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Lawrence, gafodd ei eni yn Wrecsam wedi sgorio tair gôl mewn 20 gêm i Gymru.

Mae ymosodwr Cymru, Tom Lawrence wedi cael ei gyhuddo o yrru dan ddylanwad alcohol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar nos Fawrth.

Cafodd Lawrence, 25 oed, a'i gyd chwaraewr yn Derby County, Mason Bennett 23, eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Range Rover Sport a Mercedes yn ardal Allestree, Derby.

Mae disgwyl i'r ddau ymddangos o flaen ynadon yn Derby ddydd Mawrth 15 Hydref.

Mae Lawrence, a gafodd ei eni yn Wrecsam, wedi sgorio tair gôl mewn 20 gêm i Gymru.