Cymuned i geisio prynu hen dafarn y Cross Foxes
- Cyhoeddwyd
Roedd tua hanner cant o bobl mewn cyfarfod yn Nhrawsfynydd nos Wener i weld a oes diddordeb yn lleol yn y posibilrwydd o brynu hen dafarn y Cross Foxes.
Ers i'r dafarn gau yn 2018 does dim un man yn y pentref yn cynnig bwyd na diod.
Yn ôl un cynghorydd lleol mae peidio cael tafarn yn y pentref wedi cael "effaith ddigalon".
Os yn llwyddo bydd angen i'r fenter gasglu £175,000 i dalu am yr adeilad.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Elfed Wyn Jones fod y pentref yn 'llawer distawach' ers cau'r dafarn.
"Dwi'n cofio Trawsfynydd gyda thair tafarn ar un cyfnod," meddai, "ond o 'nabod y gymuned ma'i mor glos a chryf.
"Dwi'n meddwl y byddwn ni'n sicr o lwyddo a dwi'n credu gallwn ni 'neud rhywbeth mwy na jest tafarn - rhywbeth hollol gymunedol."
Y dafarn agosaf i Drawsfynydd ar hyn o bryd yw'r un ym mhentref Maentwrog, sydd dros 5 milltir i ffwrdd.
Wrth siarad yn y cyfarfod dywedodd y cadeirydd, Bryn Jones ei fod yn hapus gyda'r nifer â ddaeth yno, ac yn "gobeithio fydd awch i ddatblygu a mynd ymlaen efo'r fenter.
'Dwi'n meddwl fod o'n hanfodol fod 'na ryw fath o ganolfan groeso. 'Does 'na'm lle i bobl fynd am fwyd 'na diod ar hyn o bryd."
Bwriad y fenter rŵan yw ceisio mynd ati i gasglu arian a cheisio cael rhagor o gefnogaeth gan y gymuned ehangach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2019