Adam Price: 'Refferendwm annibyniaeth erbyn 2030'

  • Cyhoeddwyd
Adam PriceFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Bydd refferendwm yn cael ei gynnal ar annibyniaeth Cymru erbyn 2030, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd Mr Price y bydd refferendwm yn bendant yn ystod y "degawd nesaf".

Dywedodd fod newid ar droed ac "na fydd y DU ry'n ni'n gyfarwydd â hi yn bodoli ymhen blynyddoedd".

Wrth siarad yng nghynadledd Plaid Cymru yn Abertawe addawodd Mr Price "ddegawd o drawsnewidiad" pe bai ei blaid yn ennill etholiad nesaf y Cynulliad.

Y nod, meddai, yw cael gwared â thlodi 100,000 o blant.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys gofal plant cyffredinol am ddim i blant rhwng un a thair oed, a rhoi arian ychwanegol i deuluoedd ar incwm isel.

Dywed y blaid y bydd yn darparu costau manwl ochr yn ochr â'i maniffesto ar gyfer etholiad 2021.

Ymhlith y polisïau eraill mae darparu gwarant swydd i bobl ifanc 16-24 oed a chynnig gofal cymdeithasol am ddim i bawb.

"Mae angen penderfyniad newydd, nid i reoli problemau Cymru, ond i'w datrys," meddai Mr Price.

"Fe wnawn ni Gymru nid yn unig yn wlad wych i dyfu i fyny ynddi, ond yn lle gweddus i heneiddio ynddo."

"Bydd ein haddewid newydd o'r crud i'r bedd i bobl Cymru yn ein gweld o'r diwedd yn darparu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol di-dor gyda gofal cymdeithasol yn rhad ac am ddim i bawb sydd ei angen."

Cyhoeddodd Llafur bolisi gofal cymdeithasol tebyg ar gyfer Lloegr yn eu cynhadledd flynyddol yn Brighton fis diwethaf.

"Os gall Llafur addo i Loegr yr hyn sydd gan yr Alban eisoes, yna pam na wnawn nhw hynny pan eu bod nhw mewn llywodraeth yng Nghymru?" meddai Mr Price.

Cymru'n 'haeddu iawndal'

Galwodd Mr Price hefyd ar Lywodraeth Prydain i greu cronfa gwerth £20biliwn i'w wario ar Gymru dros gyfnod o ddeng mlynedd er mwyn cyflawni "degawd o drawsnewidiad".

Mae Mr Price yn credu bod Cymru'n haeddu iawndal gan Lywodraeth Prydain yn dilyn diffyg buddsoddiad ar hyd y blynyddoedd.

Mae Plaid Cymru yn gobeithio adeiladu ar ei pherfformiad yn yr etholiadau Ewropeaidd fis Mai pan ddaeth y blaid yn ail yng Nghymru y tu ôl i'r Blaid Brexit ond o flaen Llafur.

Hwn oedd y tro cyntaf i Plaid guro Llafur mewn etholiad Cymru gyfan.

Wrth siarad cyn y gynhadledd, honnodd Mr Price fod "teyrngarwch naturiol pobl yn datod", gan ychwanegu bod hon wedi bod yn flwyddyn "wych" i'r blaid.

Yn ystod y gynhadledd galwodd ar yr aelodau i gymeradwyo polisi Brexit y blaid.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, yn wynebu her gan Dr Dewi Evans

Mae Mr Price eisiau i'r blaid ymgyrchu mewn unrhyw etholiad cyffredinol gydag addewid i atal y broses o adael yr UE os ydy Prydain yn wynebu Brexit heb gytundeb.

Fel arall mae e'n dal i ffafrio cynnal ail refferendwm.

Bydd aelodau'r blaid hefyd yn cael cyfle i bleidleisio dros gadeirydd nesaf Plaid Cymru.

Mae'r cadeirydd presennol Alun Ffred Jones yn wynebu her gan Dr Dewi Evans.

Mae Dr Evans wedi mynegi cefnogaeth i'r aelod cynulliad annibynnol Neil McEvoy, a gafodd ei ddiarddel o'r blaid ym mis Mawrth 2018.