Cofio'r arlunydd Wynne Jenkins o Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Roedd Wynne Jenkins yn hoff iawn o waith Kyffin Williams
Yn 82 oed bu farw yr arlunydd Wynne Jenkins o Gaerfyrddin.
Roedd yn adnabyddus am ei luniau olew o dirlun ac adeiladau Cymru ac roedd ei waith yn cael ei arddangos yn gyson yn orielau celf Cymru a thu hwnt.

Eglwys Sant Teilo o waith Wynne Jenkins
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei fab Llŷr Jenkins "mai tirlun y gogledd oedd yn ei ddenu fwyaf.
"Roedd e'n hoff iawn o Dal-y-llyn a dwi'n creu be' oedd yn drawiadol am dad mai nid jyst tynnu llun o'r hyn a welai o'dd e - ro'dd e'n rhoi lliw i olygfa ac yn dod â'r cyfan yn fwy bywiog.
"Yr hyn oedd yn mynd â'i fryd oedd sut oedd pobl yn ymateb i'r tirlun - roedd pethau fel gosodiad crawiau, hynny yw sut roedd dynoliaeth yn gosod darnau o lechi, i ddiogelu neu addurno yn apelio ato."

Roedd Wynne Jenkins yn hoff iawn o baentio golygfeydd yn y gogledd - yn enwedig Tal-y-llyn
Brodor o Langennech ger Llanelli oedd Wynne Jenkins ond roedd wedi byw yng Nghaerfyrddin ers hanner canrif.
Bu'n athro Cymraeg mewn ysgolion yn Aberdâr a Hwlffordd ac yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Bro Myrddin.
Ychwanegodd Llŷr Jenkins: "Tynnu lluniau oedd pleser mawr dad i ddweud y gwir ac roedd e'n gweithio i dalu'r biliau! Ond mae'n syndod faint o gyn-ddisgyblion sydd wedi dod yma yn dweud eu bod yn falch ei fod e wedi'u dysgu.
"Roedd gan dad, wi'n credu, barch mawr at y disgyblion - y rhai da a'r rhai drwg."
Osgoi manylder
Y dylanwad cyntaf ar Wynne Jenkins oedd yr arlunydd a'i athro celf o Lanelli, John Bowen.
Roedd e hefyd yn edmygydd o waith Kyffin Williams a Lucien Freud, a'r prif ddylanwad diweddar arno oedd yr artist Gwilym Pritchard.

Roedd yn well gan Wynne Jenkins ddefnyddio cyllell na brws er mwyn osgoi manylder
Roedd yn well ganddo ddefnyddio cyllell yn lle brws fel nad oedd yn cynnwys gormod o fanylder yn ei luniau.
Roedd yn sylwebydd cyson ar sioeau celf i Radio Cymru a rhaglenni S4C.
"Ond ry'n yn ei gofio hefyd," meddai Llŷr Jenkins, fel Cristion a Chymro. Roedd e'n hoff iawn o fynychu capel y Priordy yma yng Nghaerfyrddin.
"A rhaid cofio hefyd ei fod yn gefnogwr brwd o'r Scarlets."
Mae e'n gadael gwraig Eira a dau fab - Llŷr a Prys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2018