Cymeradwyo traffig ynghanol tref Bwcle wedi 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi rhoi sêl bendith i ailagor canol Bwcle i gerbydau.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth fe nododd y cyngor eu bod yn cefnogi cynllun peilot cyn belled â bod y cyngor tref yn gefnogol.
Maent hefyd wedi cytuno i greu 18 o lefydd parcio ychwanegol am ddim mewn maes parcio oddi ar y stryd fawr.
Does dim traffig wedi bod ynghanol Bwcle ers 20 mlynedd. Cafodd strydoedd yr ardal eu cau i gerbydau yng nghanol y 1990au ar gost o £500,000.
Os yw'r cyngor tref yn gefnogol byddai Bwcle yn dilyn esiampl Treffynnon, lle mae gwaith yn mynd rhagddo i ailagor canol strydoedd canol y dref yn barhaol yn dilyn arbrawf llwyddiannus y llynedd.
Hollti barn
Roedd y cynghorydd sir lleol, Dennis Hutchinson, wedi galw am ymgynghoriad cyn symud ymlaen, gan ddweud bod y mater yn hollti barn.
Cyn y cyfarfod dywedodd: "Mae'r ddwy ochr yn cyflwyno achosion da. Mae angen rhoi'r cyfle iddyn nhw fynegi barn cyn unrhyw benderfyniad."
Ychwanegodd bod yna ymgynghoriad cyn cau'r ardal i draffig yn 1995 "oherwydd roedd yn fuddsoddiad cyhoeddus o bwys" gan yr awdurdod ar y pryd, Cyngor Bwrdeistref Alyn a Glannau Dyfrdwy.
£5,000 fyddai cost ailagor canol Bwcle dros dro yn ôl yr adroddiad - byddai hynny yn cynnwys arwyddion newydd a hysbysebu'r cynllun.
Mae'r cynnig yn rhan o adolygiad o drefniadau parcio'r dref, a fyddai hefyd yn galluogi i bobl barcio am ddim am gyfnodau byr ym maes parcio Heol Brunswick.
Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Sir Y Fflint, Carolyn Thomas bod cael "nifer fach o lefydd parcio di-dâl, arhosiad byr ar y stryd mewn canol tref yn hanfodol fel bod pobl yn gallu galw'n sydyn i gasglu'u siopa".
Mae'n bosib, meddai, bod y diffyg presennol o lefydd parcio cyfleus ar strydoedd o amgylch canol y dref yn atal siopwyr "allai fod yn dymuno ymweld â'r dref am gyfnodau byr".
Ychwanegodd bod yr adroddiad yn "cynnig datrysiad.... sy'n debycach i'r hyn sydd ar gael mewn trefi eraill ar draws y sir".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2019