Let's Mynd

  • Cyhoeddwyd

Rwy'n teimlo fel un o'r tadau hynny wnaeth fethu cyrraedd yr ysbyty mewn pryd ar gyfer yr enedigaeth!

Roeddwn i mas o'r wlad yn recordio rhaglen i Radio Cymru pan lwyddodd Boris Johnson i sicrhau o'r diwedd y byddai'n cael yr etholiad y bu'n chwennych cyhyd.

Dyma fi yn ôl a bant a ni felly - co ni off neu let's mynd fel mae plant Cymraeg Caerdydd yn dweud!

Peidiwch â disgwyl llu o broffwydoliaethau hyderus gen i'r tro hwn. Fel mae bron pawb arall eisoes wedi dweud, hwn yw'r etholiad anoddaf i'w broffwydo ers cenedlaethau wrth i system amlbleidiol gael ei stwffio i mewn i beiriant sosejys gyfundrefn bleidleisio cyntaf i'r felin.

Mewn cyfundrefn felly gall ymgeisydd ennill sedd gyda chanran isel iawn o'r pleidleisiau. Yn 2015, er enghraifft, enillodd yr SDLP De Belfast gyda llai na chwarter y pleidleisiau. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd 30.4% yn ddigon i'r DUP ei chipio.

Dyw arolygon barn Prydain-gyfan ddim yn gwbl ddiystyr ond mae didoliad y gefnogaeth yn hollbwysig a bydd angen gweld llwyth o arolygon mewn etholaethau unigol er mwyn cael syniad gwell ynghylch beth sy'n mynd ymlaen.

Mae'r rheiny sydd wedi ymddangos yn ddiweddar yn rhoi darlun o'r fath o ganlyniadau a allasai fod yn bosib y tro hwn.

Cymerwch arolwg gan Survation yn etholaeth Finchley a Golders Green yn awgrymu bod y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi neidio o 7% i 41% ers yr etholiad diwethaf ac y gallasai Luciana Berger, y cyn aelod seneddol Llafur, gipio'r sedd.

Nawr, does dim byd yn bod ar fethodoleg Survation ond dylid nodi mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eu hunain wnaeth gomisiynu'r pôl a dewis ei gyhoeddi. Does wybod pa arolygon eraill a gomisiynwyd gan y blaid ac sydd wedi cael eu cadw o dan eu hetiau.

Rwy'n amau y gallwn ddisgwyl llawer mwy o hyn yn yr wythnosau nesaf. Mewn sefyllfa mor ddryslyd fe fydd y pleidiau yn ystyried arolygon fel arf ychwanegol yn eu hymgyrchoedd. Mae'n dacteg y mae'r People's Vote Campaign wedi defnyddio'n effeithiol dros y flwyddyn ddiwethaf i greu naratif o gefnogaeth gynyddol i refferendwm arall.

Yn y cyfamser, ar blaned arall, mae rhyfel y posteri wedi cychwyn yng Ngheredigion! Let's mynd.