Beirniadu oedi i benodi cadeirydd newydd i S4C
- Cyhoeddwyd
Mae'r oedi cyn penodi cadeirydd newydd i S4C wedi bod yn "gamgymeriad sylfaenol", yn ôl un o'i gyn-gadeiryddion.
Bwriad Llywodraeth y DU oedd cyhoeddi enw'r cadeirydd newydd yn yr hydref.
Mae BBC Cymru ar ddeall mai'r ddau ymgeisydd sy'n cael eu hystyried ar gyfer y swydd ydy cyn-bennaeth Ofcom yng Nghymru, Rhodri Williams, a phrif weithredwr Coleg Cambria, David Jones.
Mae Mr Williams eisoes yn aelod anweithredol o fwrdd S4C.
Dywedodd adran ddiwylliant Llywodraeth y DU y bydd cyhoeddiad maes o law.
'Dilyn amserlen'
Dywedodd John Walter Jones, oedd yn gadeirydd ar S4C o 2006 tan 2010, nad oedd yr adran ddiwylliant "yn sylweddoli pwysigrwydd S4C yng Nghymru".
"Mae'r swydd wedi'i hysbysebu ers canol eleni," meddai.
"Chwe mis i apwyntio un person? Dwn i ddim faint o apwyntiadau maen nhw'n gwneud mewn blwyddyn.
"Mi ddylian nhw fod i wybod sut, pryd a be ddylai'r amserlen fod - a'i dilyn hi."
Cyhoeddwyd hysbyseb gan Lywodraeth y DU am olynydd i Huw Jones ym mis Mehefin, cyn iddo adael fel cadeirydd S4C ym mis Medi wedi wyth mlynedd wrth y llyw.
Dywedodd yr hysbyseb bod disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar y gwaith yn yr hydref.
Mae cadeirydd S4C yn derbyn cyflog o £40,000 am waith sy'n cyfateb i ddau ddiwrnod yr wythnos.
Ymhlith anghenion y swydd mae'n rhaid cadeirio cyfarfodydd misol y bwrdd, mynychu cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau'r diwydiant darlledu.
'Dan anfantais'
Dywedodd John Walter Jones, oedd yn rhagflaenydd i Huw Jones, bod "unrhyw gorff heb arweinydd dan anfantais".
"Effaith hynny ydy eich bod chi'n gadael corff fel S4C - corff cyhoeddus sy'n gwario arian cyhoeddus - heb arweinydd parhaol, heb gapten wrth y llyw, ac mae hynny i fi yn gamgymeriad sylfaenol," meddai.
"Beth tasa rhywbeth yn digwydd yn wleidyddol?
"Beth oes oedd newid polisi lle mae'r llywodraeth newydd yn y cwestiwn?
"Pwy wedyn sydd yn mynd i ddadlau hefo llywodraeth newydd ar ran y sianel?"
Ers i Huw Jones adael ym mis Medi mae aelod arall o'r bwrdd, Hugh Hesketh Evans, wedi bod yn gweithredu fel cadeirydd dros dro.
Ymddangosodd yr hysbyseb i benodi cadeirydd newydd mis Mehefin, gyda'r dyddiad cau ar 17 Gorffennaf.
Ym mis Awst bu'r panel asesu yn creu rhestr fer ac fe gafodd tri pherson eu cyfweld yng nghanol mis Medi.
Yn ôl ffynhonnell sy'n gyfarwydd â'r broses, roedd David Jones a Rhodri Williams wedi'u hystyried yn addas ar gyfer y swydd.
Cafodd eu henwau eu hanfon at yr ysgrifennydd gwladol dros ddiwylliant, Nicky Morgan.
'Penderfyniad maes o law'
Dywedodd yr hysbyseb gwreiddiol bod disgwyl i'r cadeirydd newydd "ddechrau'r swydd yn yr hydref 2019".
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus ymddangos o flaen cyfarfod ar y cyd o'r pwyllgor materion Cymreig a'r pwyllgor digidol, diwylliant, cyfryngau a chwaraeon cyn dechrau ar y swydd.
Mewn datganiad dywedodd adran ddiwylliant Llywodraeth y DU bod hwn yn "benderfyniad pwysig i S4C a phobl Cymru, felly mae'n iawn ein bod yn cymryd yr amser i wneud y penodiad gorau posib".
"Rydym wedi sicrhau bod gan S4C gadeirydd dros dro ers 1 Hydref fel y gall barhau i weithredu'n effeithiol, a byddwn yn cyhoeddi'r cadeirydd newydd maes o law," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mater i'r adran ddigidol, diwylliant, cyfryngau a chwaraeon yw penodi cadeirydd newydd i S4C.
"Mae cadeirydd dros dro wedi ei benodi sef y cynghorydd Hugh H. Evans."
Galw am gynllunio gwell
Yn ôl John Walter Jones mae'r etholiad cyffredinol sydd ar y gweill yn golygu y dylai mwy o gynllunio fod wedi'i wneud gan y llywodraeth i enwi olynydd Huw Jones.
"Mae Gatland yn gadael Cymru heddiw ar ôl y gêm maen nhw wedi ei cholli y bore 'ma," meddai.
"Mae yna olynydd iddo fo wedi ei gyhoeddi ac yn ei swydd. Mae hi yr un fath ym mhob man.
"Dwi'n synnu bod DCMS wedi caniatáu i'r apwyntiad yma fynd at y weiren heb gyhoeddiad, yn enwedig o dan yr amgylchiadau 'da ni ynddyn nhw ar hyn o bryd yn wleidyddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019