Ceir gwyrdd i ateb y galw mewn ardaloedd gwledig

  • Cyhoeddwyd
Y carFfynhonnell y llun, Arloesi Gwynedd Wledig
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ceir yn cael ei wefru yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen ym Methesda gyda Rhys Gwilym, Huw Davies a Glyn Hudson

Bydd dau gar trydan ar gael mewn lleoliadau gwledig yn y gogledd er mwyn helpu trigolion sydd eisiau teithio o le i le.

Cynllun peilot gan Arloesi Gwynedd Wledig yw'r ceir cymunedol, ac maen nhw wedi eu lleoli ym Methesda ac Abergynolwyn.

Ymhen blwyddyn bydd dwy ardal arall yn y gogledd yn medru elwa o'r ceir trydan.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop.

'Ateb yr her'

Yn ôl Rhys Gwilym o'r sefydliad, y nod ydy bod pobl leol yn defnyddio'r ceir yn lle bod yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae 'na dipyn o ardaloedd yng Ngwynedd sydd ddim efo gymaint â hynny o drafnidiaeth gyhoeddus," meddai.

"I lot o bobl, yn enwedig yr henoed sydd ella ddim yn dreifio, mae cael mynediad i drafnidiaeth yn gallu bod yn rhywbeth reit anodd iddyn nhw.

"Gobeithio bydd y prosiect yma yn ateb yr her yna."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 547 o lefydd gwefru cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd

Mae Huw Davies o fenter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen yn dweud bod nifer wedi dangos diddordeb llogi'r car ym Methesda.

"Mae gennym ni bobl sydd isio mynd i apwyntiad ysbyty, ella isio mynd cyn belled ag Ysbyty Glan Clwyd a ddim ffordd o drafeilio, wedyn 'da ni'n hysbysebu am wirfoddolwyr i'n cynorthwyo ni yn y gwaith hynny," meddai.

"Ond ella i bobl sydd isio mynd i'w gwaith hefyd. Fysa ni yn annog pobl i rannu fel ein bod ni yn cael llond car bob tro."

Carwen yw enw'r car ym Methesda a Carwyn yn Abergynolwyn.

Hyrwyddo car gwyrdd

Pris llogi'r car fydd tua £25 y diwrnod ar gyfer Carwen ym Methesda, medd Mr Davies.

"Fydd gennym ni drefniant lle bydd grwpiau ac unigolion yn medru llogi Carwen," meddai.

"Wedyn mi fydd rhywfaint o ffi amdani i 'neud hi mor fforddiadwy â phosib, wedyn i bobl gael profi hefyd rhag ofn bod nhw yn bwriadu prynu car trydan."

Nid dim ond ffordd o ateb y galw yw'r ceir, medd Mr Davies, ond "hyrwyddo'r cysyniad o gar sy'n rhedeg ar egni gwyrdd, felly dim allyriadau a defnyddio trydan glân".

Bydd cyfle i bobl ym Methesda ac Abergynolwyn weld y ceir a dod i wybod mwy am y cynllun yn ystod y penwythnos.