Criw ambiwlans awyr cyntaf â menywod yn unig

  • Cyhoeddwyd
Dr Jennifer Dinsdale, Tracy Phipps, Jennifer Stevenson a Dr Maire GallagherFfynhonnell y llun, Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dr Jennifer Dinsdale, Tracy Phipps, Jennifer Stevenson a Dr Maire Gallagher oedd yn rhan o'r criw

Mae'r criw ambiwlans awyr cyntaf yng Nghymru â menywod yn unig wedi mynd ar ei daith gyntaf o Gaernarfon.

Dywedodd un o'r achubwyr bywyd - Tracy Phipps - ei fod yn "gyfle i ysbrydoli cenhedlaeth o fenywod".

Yn ymuno gyda hi ar y daith gyntaf oedd Dr Jennifer Dinsdale, y peilot Jennifer Stevenson a'r doctor dan hyfforddiant Maire Gallagher.

Wedi i Ambiwlans Awyr Cymru roi llun o'r criw ar Twitter, dywedodd ei fod yn gobeithio "y bydd llun fel hwn yn dod yn un arferol yn y dyfodol agos".

Ffynhonnell y llun, Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tracy Phipps bod y llun yn "gyfle i ysbrydoli cenhedlaeth o fenywod"

Dywedodd Ms Phipps: "Wrth i ni gyrraedd yn y bore fe wnaethon ni sylwi bod y rota wedi rhoi tîm o fenywod yn unig at ei gilydd, ac fe ddaeth hi'n glir bod hwn yn garreg filltir bwysig.

Ychwanegodd bod y criw wedi derbyn "cymaint o sylwadau positif" a bod darllen sut mae'r llun wedi ysbrydoli pobl "wedi rhoi balchder mawr i ni".