Shwd Mae'n Ceibo?
- Cyhoeddwyd
Ymhen ychydig ddyddiau fe fydd rhai ohonoch chi yn derbyn eich papurau pleidleisio trwy'r post ac fe fydd etholiad 2019 wedi cychwyn yn swyddogol.
Dyna'r rheswm y mae'r pleidiau i gyd wedi ceisio gwneud sbloets o gwmpas y penwythnos hwn trwy ryddhau maniffestos, trefnu digwyddiadau arbennig ac yn y blaen.
I Lafur yn arbennig mae'r dyddiau nesaf yma'n dyngedfennol. Os ydy'r arolygon barn yn agos at fod yn gywir ac yn parhau'n ddigyfnewid mae'n anodd gweld y Ceidwadwyr yn boddi wrth y lan beth bynnag yw union ddidoliad y pleidleisiau.
Os ydy pethau'n closio rhyw ychydig yn ystod y dyddiau nesaf, hyd yn oed o ychydig bwyntiau'n unig, gallai'r sefyllfa brofi'n hynod ddiddorol.
Am y rheswm hynny mae 'na ryw nerfusrwydd anarferol yn rhengoedd y ddwy blaid fawr gyda chefnogwyr Llafur yn ofni ei bod hi, o bosib, yn rhy hwyr yn y dydd i bethau newid yn sylfaenol a Cheidwadwyr yn ofni baglu fel y gwanethon nhw yn 2017.
Dyma fel y disgrifiodd Roy Jenkins ymgyrch Tony Blair yn 1997. Roedd blaid, meddai, fel "an elderly butler tiptoeing across a polished floor with a Ming vase, terrified of any false step".
Nawr dychmygwch am eiliad taw Boris Johnson nid Tony Blair sy'n cario'r fâs yna ac fe wnewch chi ddeall nerfusrwydd y Ceidwadwyr. Beth bynnag arall yw Boris Johnson, ac mae ganddo ei rinweddau etholiadol, dyw e ddim yn bâr saff o ddwylo.
Am y rheswm hynny mae ymgyrch Mr Johnson wedi dechrau ymdebygu i un Mrs May ddwy flynedd yn ôl. Mae ei argaeledd ar gyfer cyfweliadau a dadleuon yn cael ei dogni a'i ymddangosiadau cyhoeddus yn cael eu llwyfannu.
Yn y cyfamser mae Llafur yn gallu fforddio cymryd ambell i risg. Yn wir, camgymeriad fyddai chwarae'n or-ofalus ar hyn o bryd.
Cafwyd maniffesto radicalaidd felly ond un oedd ag addewidion wedi eu hanelu fel laserau at y grwpiau allweddol y mae Llafur angen eu troi mas i bleidleisio.
Fe gawn weld yn y dyddiau nesaf faint o effaith y mae'n cael ond mae'n ymgais glyfar i geisio sicrhau momentwm, os ydw i'n cael defnyddio'r gair hwnnw!