Profiad 'sbeshal' i actio yn The Crown

  • Cyhoeddwyd
Mark Lewis Jones a Tedi Millward ar set The Crown yn yr Hen Goleg yn AberystwythFfynhonnell y llun, Angharad Elen
Disgrifiad o’r llun,

Mark Lewis Jones a Tedi Millward ar set The Crown yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth

Mae un o'r penodau yn y gyfres ddiweddaraf o ddrama The Crown ar Netflix, wedi ei henwi yn Tywysog Cymru, lle mae'n edrych ar berthynas y Tywysog, yn ei gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth â'i diwtor Cymraeg ar y pryd, Dr Tedi Millward.

Yr actor Mark Lewis Jones sy'n portreadu Tedi Millward, a Nia Roberts sy'n chwarae rhan ei wraig, Silvia.

Bu'r actorion yn siarad ar raglen Dros Ginio Radio Cymru am y profiad o actio yn y Gymraeg ar gyfes rhyngwladol, a phortreadu cyfnod mor hanesyddol yng Nghymru.

"Oedd o'n brofiad ffantastig i fod yn onest," meddai Mark Lewis Jones am chwarae'r tiwtor a fu'n gyfrifol am ddysgu Cymraeg i Tywysog Charles, cyn ei Arwisgiad yng Nghastell Caernarfon yn 1969.

"Mi nesh i gael sgwrs efo Llio, merch Tedi, cyn chwarae'r rhan. Yn y sgript mi oedd 'na speech yn sôn yn union am beth mae Tedi yn ei ddweud, am y ffaith bod addysg yn ei farn o, i bawb, o'r gwaelod reit i'r top. A dyna oedd ei agwedd o."

Ffynhonnell y llun, Netflix
Disgrifiad o’r llun,

Mark Lewis Jones yn The Crown gyda Josh O'Connor sy'n actio'r Tywysog Charles

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw ym mis Gorffennaf eleni, 50 mlynedd wedi'r Arwisgo, dywedodd Llio Millward am ei thad, "dwi'n gwybod bod Dad yn teimlo bod hawl gan bawb i astudio, hyd yn oed os ydy e'n dywysog brenhinol.

"Ond hefyd, roedd yn gweld y sefyllfa fel cyfle i oleuo agwedd y sefydliad am achos yr iaith - drwy'r llwyfan yma oedd wedi dod ato fe... roedd e'n gweld hyn fel cyfle i hysbysu'r byd yn gyffredinol am werth yr iaith ac am frwydr yr iaith."

Bu Llio yn helpu gyda gwaith ymchwil ar gyfer y bennod, ac aeth hi a'i thad i weld y set yn Aberystwyth. Bu hefyd yn siarad â Mark Lewis Jones cyn y ffilmio a chyfrannu rhai o hen deis ei thad, sy'n cael eu gwisgo ar y sgrîn.

Disgrifiad,

Mark Lewis Jones a Nia Roberts am bortreadu Tedi Millward a'i wraig Sivia yn The Crown

Dywedodd Mark Lewis Jones, bod chwarae rhan Dr Tedi Millward yn brofiad "sbeshal iawn".

"Beth o'n i'n hoffi yn fawr am chwarae Tedi, ydy ar yr wyneb mae o'n addfwyn, ond ar y tu mewn, mae 'na ryw steeliness, a mae'n hollol gadarn i hynny, ac i'r iaith, a beth oedd yn digwydd ar y pryd yn y 1960au.

"Wnaethon ni gwrdd yn Aberystwyth am y tro cyntaf, ac ar ôl i ni orffen ffilmio, mi aethon ni i'r sinema fach yn y Llyfrgell yn Aberystwyth i ddangos y bennod i Tedi ac mi oedd hwnna yn fraint llwyr i wylio efo fo, a braidd yn weird iddo fo, siŵr o fod!

"Mi oedd o'n licio'r bennod dwi'n meddwl, ond efallai roedd o eisio mwy o'r stori i fod yn ganolog o gwmpas symudiad Cymdeithas yr Iaith ar y pryd.

"Ond mae'r stori mae Netflix yn ei dweud, yn fwy am y berthynas rhwng Charles a Tedi a rhwng Charles a theulu'r Millwards.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n bles efo fo, o'n i'n gobeithio fysa fo."

Ffynhonnell y llun, Netflix
Disgrifiad o’r llun,

Nia Roberts yn chwarae rhan Silvia Millward

Dywedodd Nia Roberts sy'n chwarae rhan Silvia, gwraig Dr Tedi Millward a oedd yn genedlaetholwraig, ei bod hi'n falch bod y gyfres wedi penderfynu defnyddio cymaint o Gymraeg yn y sgript.

"Roedd fy ngolygfeydd i i gyd yn Gymraeg, wnes i ddim siarad Saesneg o gwbwl, ac mi o'n nhw [y tîm cynhyrchu] yn benderfynol i wneud hynna. O'n i mor falch eu bod nhw wedi neud e.

"Dwi'n chwarae rhan Silvia, ac mae'r Tywysog Charles yn dod i'n tŷ ni am swper un noson ac yn cwrdd â fi ac Andras y mab, ac oedd yn brofiad eitha' newydd iddo i fod mewn tŷ cyffredin gyda phobl gyffredin, oedd ddim yn cytuno gyda'r teulu brenhinol, roedden nhw'n genedlaetholwyr mawr.

"Doedd Silvia ddim yn hapus iawn i ddechre bod Tedi yn mynd i roi gwersi Cymraeg i'r Tywysog, mae 'na un olygfa lle mae'n dangos sut mae'n teimlo. Ond i roi y Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol, bod Tywysog Charles yn siarad Cymraeg gyda'r byd i gyd yn gwylio, roedd yn rhoi sylw mawr i'r iaith Gymraeg.

"Mae'r ymchwil maen nhw [cynhyrchwyr y gyfres] wedi ei wneud yn fanwl iawn, ond wrth gwrs mae yn ddrama ar ddiwedd y dydd, ac maen nhw wedi ychwanegu at y pethau wnaeth ddigwydd.

"Dwi ddim yn hollol sicr a ddaeth Tywysog Charles i dŷ y Millwards, a wnaeth Charles ddim ychwanegu at yr araith [fel sy'n cael ei ddangos yn y ddrama] ond mae'n debyg fe wnaeth e ddweud mewn cyfweliad ar y pryd bod e'n deall sut bod y Cymry yn teimlo achos y ffordd roedd ei deulu fe ei hun yn gwneud iddo fe deimlo, ond mae lot o dramatic licence dwi'n credu."

Hefyd o ddiddordeb: