Adran Dau: Bradford 1-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Bradford v CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes Casnewydd ddydd Sadwrn oddi cartref yn Bradford.

Roedd cic o'r smotyn James Vaughan wedi 58 munud wedi trosedd yn y cwrt gan Nick Townsend yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Mae Casnewydd nawr wedi colli pedair gêm oddi cartref yn olynol.

Yn dilyn y golled mae Casnewydd bellach yn y 12fed safle yn Adran Dau.