Ymchwiliad i benderfyniad y Gweinidog Trafnidiaeth

  • Cyhoeddwyd
Ken Skates
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken Skates wedi bod y aelod o'r cabinet ers 2013

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i ystyried a yw Gweinidog Trafnidiaeth Cymru wedi torri rheolau'r llywodraeth dros gyllid ar gyfer gwasanaeth bws yn ei etholaeth ei hun.

Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod wedi derbyn cais i ymchwilio i weithred bosib o dan y Cod Gweinidogol.

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, yn cynrychioli etholaeth De Clwyd.

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae angen i bobl wybod bod tryloywder llawn yn y modd y mae arian yn cael ei wario ar wasanaethau bysiau."

Cafodd y mater ei godi gan Mr ap Iorwerth yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth.

Angen 'tryloywder llawn'

"Gyda chyllid mor brin ar gyfer gwella gwasanaethau bysiau nid oedd hi yn syndod bod siom enfawr a beirniadaeth hallt pan ddaeth yn amlwg bod y gweinidog trafnidiaeth wedi ymyrryd yn bersonol i sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaeth bws yn ei etholaeth ei hun," meddai.

"Rwy'n deall nawr bod y Gweinidog wedi cyfeirio ei hun at y Prif Weinidog i ymchwilio i'r awgrym ei fod wedi torri'r cod gweinidogol.

"A all y prif weinidog ddweud wrthym ni a yw wedi cwblhau'r ymchwiliad hwnnw a beth oedd ei gasgliadau?

"Os na, pryd fydd y gwaith hwnnw'n cael ei wneud oherwydd bod angen i bobl wybod bod tryloywder llawn yn y ffordd y mae arian yn cael ei wario ar wasanaethau bysiau?"

Rhaid gwario arian mewn ffordd "hollol deg a chyfiawn ym mhob rhan o Gymru", ychwanegodd.

Wrth ymateb dywedodd Mr Drakeford: "Cyfeiriwyd hyn ataf o dan y Cod Gweinidogol.

"Byddaf yn gorffen fy ymchwiliadau yn y ffordd arferol a byddai'n well i'r aelod aros i weld canlyniadau hynny."