Cau capel Cymraeg olaf Y Barri yn 'dorcalonnus'
- Cyhoeddwyd

Gwasanaeth Nadolig Ysgol Sant Curig oedd un o'r digwyddiadau olaf i'w cynnal yng nghapel Y Tabernacl, Y Barri
Bydd capel Cymraeg olaf Y Barri yn cau ei ddrysau'r Nadolig hwn am fod yr adeilad yn rhy ddrud i'r aelodau.
Er bod aelodau Y Tabernacl yn dal i gwrdd ar y Sul, does ganddyn nhw ddim cartref parhaol o nawr ymlaen.
Fe fyddan nhw'n cyfarfod yng Nghanolfan y Mileniwm Sant Francis ar ochr arall y dref dros dro.
Mae rhai o'r aelodau wedi dweud bod y sefyllfa yn "dorcalonnus".
Fe gafodd y capel ei godi yn 1894 ac fe gafodd ei addasu yn 1904 i wneud lle i 400 o bobl.
Ond mae arian, a nifer yr aelodau erbyn hyn, yn ei gwneud hi'n anodd cadw'r drysau ar agor.

Mae nifer o'r aelodau, gan gynnwys trysorydd y Tabernacl, Heulwen Cooper, yn drist bod capel Gymraeg ola'r dre yn cau
Dywedodd Heulwen Cooper, trysorydd y capel: "Ar y llyfrau mae 'na ryw 70 o aelodau gyda ni, ond ar Sul arbennig falle bydde 40... a bydde hynny wir yn arbennig.
"Ar y cyfan rhyw 20, 25 falle, fydde'n troi lan ar fore Sul."
Bellach mae'r adeilad, sydd wedi bod yn ganolfan i addolwyr y dref ers dros ganrif, ar werth.
"Dwi ddim yn edrych ymlaen ato fe o gwbl", meddai Ms Cooper.
"Bu bron i fi dynnu hances boced mas achos o'n i wir yn teimlo fe'n anodd."
Capel Gwynfor Evans
Dyma oedd hen gapel y gwleidydd Gwynfor Evans, ac mae ei deulu yn dal i fod yn aelodau yma, gan gynnwys ei fab, Alcwyn Deiniol Evans.
"Mae enw fy nhad-cu i - Dan Evans - wedi ei gynnwys mewn ffrâm ar y wal, gyda sawl un arall," meddai.
"Yn 1926, pan o'dd Dad yn 14 mlwydd oed, o'n nhw wrthi'n troi'r olwyn fawr yn gweithio'r pwmp tu fas cyn bod trydan yn dod i ganol Y Barri.
"Ni 'di cael olyniaeth go dda o weinidogion yma, ac mae cofebion i nifer ohonyn nhw ar y welydd ac yn ystafell y diaconiaid.
"Y gobaith yw y byddwn ni'n ffeindio rhywle fwy addas sydd wedi ei deilwra'n arbennig ar gyfer y nifer ohonon ni sydd yma erbyn hyn, achos mae capeli ac eglwysi ar draws Cymru'n colli niferoedd."

Ymaelododd Alcwyn Evans â chapel Y Tabernacl pan oedd yn ei 20au

Fe dderbyniodd tad-cu Alcwyn Deiniol Evans, Dan Evans, oriawr fel cydnabyddiaeth o'i waith
"Yn anffodus 'dy ni'n gorfod symud oherwydd cyflwr yn adeilad y capel presennol," meddai Kevin Davies, Gweinidog Y Tabernacl.
"Ond y newyddion da yw - ie, falle ein bod ni'n cau adeilad, ond mae'r eglwys yn fyw - ac yma mi fyddwn ni yn addoli gyda'n gilydd, ac mae'r ganolfan yma yn Sant Francis yn ganolfan arbennig iawn."
Dywedodd rhai o aelodau'r capel wrth y BBC fod y sefyllfa bresennol yn eu tristáu.
Dywedodd un: "Mae'n dorcalonnus i weld yr unig gapel Cymraeg yn Y Barri yn gorfod cau'r drws, a'r aelodau yn y blynyddoedd cynt sydd wedi gweithio'n galed i'w gael e i'r safon mae e nawr."
Dywedodd un arall bod yna "deimladau o dristwch, a peth arall dwi yn drist amdano yw bod 'na bump ysgol Gymraeg yn Y Barri a bo' ni ddim yn gallu cynnal capel Cymraeg yma nawr".