Ffrae England: Alun Cairns heb dorri'r cod gweinidogol

  • Cyhoeddwyd
Alun CairnsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alun Cairns ei benodi yn Ysgrifennydd Cymru am y tro cyntaf ym Mawrth 2016

Ni wnaeth cyn-ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, dorri'r cod gweinidogol, yn ôl ymchwiliad gan Swyddfa'r Cabinet.

Fe wnaeth Mr Cairns ymddiswyddo oherwydd ei gysylltiadau gydag ymgeisydd Ceidwadol gafodd ei gyhuddo o ddymchwel achos llys treisio.

Roedd Mr Cairns wedi dweud ei fod yn ymwybodol o gwymp yr achos, ond nad oedd yn gwybod am y manylion am rôl Ross England tan yn ddiweddarach.

Daeth yr ymchwiliad gan Syr Alex Allan i'r casgliad ei fod yn "annhebygol" nad oedd Mr Cairns wedi cael gwybod am rôl Mr England, ond nad oedd tystiolaeth i brofi hynny ac felly nad oedd wedi torri'r cod gweinidogol.

Dywedodd y dioddefwr yn yr achos llys gafodd ei ddymchwel ei bod yn "siomedig ond ddim wedi synnu" gan gasgliad yr ymchwiliad.

Dywedodd barnwr fod Mr England wedi dymchwel achos lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf, a hynny'n fwriadol drwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.

Roedd Mr England yn arfer gweithio yn swyddfa etholaeth Mr Cairns ac roedd wedi ei enwi fel yr ymgeisydd Ceidwadol ym Mro Morgannwg ar gyfer etholiad Cynulliad 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alun Cairns wedi dweud "y byddai'n bleser ymgyrchu" dros Ross England

Roedd Mr Cairns yn gwadu ei fod yn gwybod am fanylion yr achos, ond fe welodd BBC Cymru e-bost gafodd ei anfon ato yn Awst 2018 yn sôn am y mater.

Roedd Swyddfa'r Cabinet yn ymchwilio i honiadau bod Mr Cairns wedi torri'r cod gweinidogol drwy beidio â dweud y gwir.

Diffyg tystiolaeth

Asgwrn y gynnen oedd "a oedd yn gredadwy nad oedd Mr Cairns wedi cael gwybod am ddymchwel yr achos heb ofyn neu gael gwybod am y rhesymau, yn enwedig gan fod Mr England yn dyst", meddai adroddiad Syr Alex Allan.

Ychwanegodd Syr Alex: "Dwi'n meddwl ei bod yn annhebygol na fyddai Mr Cairns wedi cael gwybod rhywbeth am rôl Mr England pan gafodd wybod am gwymp yr achos.

"Ond mae pawb sy'n gysylltiedig yn dweud na wnaethon nhw roi gwybod i Mr Cairns am rôl Mr England, a does dim tystiolaeth i wrth-ddweud hynny.

"Ar y sail yna, nid wyf yn canfod bod tystiolaeth i gefnogi honiadau o dorri'r cod gweinidogol."