£3.3m i ysgolion a cholegau i ddileu 'tlodi mislif'

  • Cyhoeddwyd
Sanitary products
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr arian ar gael i bob ysgol a choleg yng Nghymru i dalu am nwyddau iechydol am ddim

Bydd bob ysgol a choleg yng Nghymru yn elwa o gronfa newydd gwerth £3.1m er mwyn dileu "tlodi mislif" yn 2020.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yr arian ar gael i sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael am ddim i bob disgybl neu fyfyriwr sydd eu hangen.

Dyma'r ail flwyddyn i arian gael ei glustnodi er mwyn mynd i'r afael â'r mater.

Bydd cronfa arall o £220,000 ar gael i gynghorau lleol sydd am roi cynnyrch o'r fath mewn llyfrgelloedd neu ganolfannau cymunedol.

Mae'n dilyn ymgyrchoedd ar draws Cymru i bwysleisio bod menywod ifanc yn cael trafferth talu am nwyddau iechydol.

Dywedodd Amber, sy'n 16 oed ac yn aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin: "Dyw hyn ond i sicrhau nad yw'r mislif yn rhwystr i ferch lwyddo mewn bywyd.

"Roedd yn sioc i ni ddysgu bod merched ifanc yn y sir yn colli allan ar addysg, a bod un o bob 10 merch rhwng 14 a 21 oed yn y DU yn methu fforddio talu am nwyddau iechydol, felly fel cyngor ieuenctid fe aethon ni ati i sefydlu ymgyrch tlodi mislif."

Mae'r cyngor wedi bod yn dosbarthu bocsys o gynnyrch i ysgolion yn y sir.

Ffynhonnell y llun, Carmarthenshire council
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dosbarthu cynnyrch i ysgolion y sir

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn un arall sydd wedi gweithredu ar y mater gan ddosbarthu'r nwyddau i bob plentyn ysgol dros naw oed yn y sir.

Mae'r cyllid newydd yn rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ac mae'n dod ar ben £2.3m a roddwyd i ysgolion ym mis Ebrill 2019.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Jane Hutt: "Rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol wrth daclo tlodi mislif yn 2019, ac mae'r arian ar gyfer 2020 yn golygu y gallwn barhau i sicrhau urddas i bob merch a menyw yng Nghymru drwy ddarparu nwyddau priodol.

"Mae'n galondid gweld pobl ifanc yn ymgyrchu ar y mater ac yn gweithio yn eu hysgolion a chymunedau i daclo'r stigma sydd, yn anffodus, yn dal i fodoli heddiw."