Llethr sgïo i ailagor yn Llandudno wedi £300,000 o waith
- Cyhoeddwyd
Bydd llethr sgïo artiffisial yn y gogledd yn ailagor ddydd Sadwrn ar ôl adnewyddiad gwerth £300,000.
Mae Canolfan Chwaraeon Eira Llandudno yn y Gogarth wedi bod ar gau ers tri mis wrth i waith fynd rhagddo.
Dywed y ganolfan bod gwaith adnewyddu yn ei gwneud hi'n haws i sgiwyr llai profiadol a rhai freestyle.
Mae Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Lloegr wedi cyfrannu tuag at y gost.
Mae'r ganolfan wedi bod yn weithredol ers 32 mlynedd ac yn denu tua 65,000 o gwsmeriaid yn flynyddol, yn ôl y rheolwr Nigel Treacy.
"Mae'n gyflymach ac mae'n well ar gyfer rasio. Ac rydyn ni'n credu y bydd yn gweddu i'r holl sgiwyr canolradd ac uwch," meddai.
"Rwy'n gobeithio y bydd yn para saith i ddeng mlynedd oherwydd mae'n cymryd amser hir i osod un.
"Mae'n dri mis ar eich pengliniau yn ceisio dod â'r peth at ei gilydd."