Gweithiwr cwmni lorïau Mansel Davies yn euog o dwyll

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Wyn Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Barnwr fod Jonathan Phillips wedi dilyn gorchymyn a oedd wedi dod gan uwch swyddogion y cwmni.

Mae gweithiwr yn un o gwmnïau lorïau mwyaf Cymru wedi pledio'n euog i 19 cyhuddiad o dwyll.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Jonathan Wyn Phillips, a oedd yn gweithio i gwmni Mansel Davies a'i Fab, wedi ffugio dogfennau cynnal a chadw cerbydau rhwng Hydref 2017 a mis Chwefror 2018.

Dywedodd y Barnwr Geraint Walters ei fod yn derbyn barn yr erlyniad fod Phillips, 28 ac o Fynachlog-ddu, wedi dilyn gorchymyn a oedd wedi dod gan uwch swyddogion y cwmni.

Roedd ei gyflogwr, Mansel Davies a'i Fab, wedi pledio'n euog i gyhuddiad tebyg yn ystod gwrandawiad blaenorol ym mis Medi 2019.

Cafodd cyhuddiadau eraill yn erbyn rheolwr cyffredinol y cwmni, Stephen Mansel Davies, eu gollwng yn ystod yr un gwrandawiad.

Mae disgwyl i Phillips, gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, a'r cwmni gael eu dedfrydu ym mis Chwefror.

Mae'r cwmni, sydd wedi ei lleoli yn Llanfyrnach yn Sir Benfro, yn cyflogi tua 300 o bobl.