Amserlen newydd S4C i lansio'r wythnos nesaf

  • Cyhoeddwyd
n9
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaglen Newyddion yn symud i 19:30 o 24 Chwefror ymlaen

Bydd amserlen newydd S4C yn dechrau ddydd Llun nesaf, gyda rhaglen Newyddion yn symud i 19:30.

Dywedodd y sianel ei fod wedi "trafod a gwrando ar farn ein gwylwyr" wrth lunio'r amserlen newydd.

Fel rhan o'r newidiadau bydd rhaglen Newyddion yn symud o 21:00 i 19:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener, tra bydd Pobol y Cwm am 20:00 nos Lun i nos Iau, gyda rhifyn estynedig nos Fercher.

Bydd Rownd a Rownd yn symud i 20:25 ar nos Fawrth a nos Iau, a rhaglen Ffermio yn newid i 21:00 nos Lun.

Mae rhai newidiadau wedi digwydd eisoes, gan gynnwys darlledu chwaraeon byw ar nos Wener a rhifyn ychwanegol o Heno pob nos Sadwrn.

Dywedodd S4C y bydd "cyfresi cyfarwydd a newydd am 21:00 o nos Lun i nos Iau".

Roedd bwriad yn wreiddiol i gwtogi rhaglen Newyddion nos Wener i 10 munud, cyn i S4C wneud tro pedol a phenderfynu y byddai slot 25 munud o hyd i'r rhaglen.

'Patrwm mwy cyson'

Dywedodd S4C fod y newidiadau i'r amserlen "yn dilyn sawl cyfarfod gyda gwylwyr S4C, o bob oedran a chefndir, mewn grwpiau ffocws a nosau gwylwyr ledled y wlad".

"Ry'n ni wedi holi ein gwylwyr am ba gyfresi maen nhw'n mwynhau fwyaf a phryd maen nhw am eu gwylio," meddai cyfarwyddwr cynnwys S4C, Amanda Rees.

"Atebion y gwylwyr i'r cwestiynau yma sydd wrth wraidd y newidiadau i'n hamserlen rhaglenni newydd.

"Y bwriad yw creu patrwm mwy cyson i'n cynnwys bob nos, gan roi sylfaen cadarn i rai o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C tra hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ni ddangos cyfresi newydd mewn slot darlledu hwyrach.

"Ni'n gobeithio ein bod ni wedi gwneud S4C yn ddewis haws i wylio, i bawb."