Adran Dau: Casnewydd 2-1 Bradford
- Cyhoeddwyd

Fe ddaeth Casnewydd yn ôl o fod ar ei hôl hi er mwyn trechu Bradford yn Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 26 munud, gyda Clayton Donaldson yn penio croesiad Connor Wood i gefn y rhwyd.
Ond roedd Casnewydd yn gyfartal o fewn dau funud wrth i beniad Ryan Inniss guro'r golwr Richard O'Donnell.
Pum munud yn ddiweddarach roedd y tîm cartref ar y blaen, gyda Scot Bennett yn rhwydo'r tro hwn.
Mae'r canlyniad yn codi Casnewydd i'r 15fed safle yn Adran Dau.