Barnwr yn atal achos llofruddiaeth y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor yn achos wyth o bobl sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio llanc 17 oed ym Mro Morgannwg wedi cael eu rhyddhau o'u dyletswyddau.
Cafodd Harry Baker ei lofruddio ym mis Awst y llynedd yn nociau'r Barri.
Brynhawn Mercher dywedodd y barnwr Mr Ustus Simon Picken wrth y rheithgor fod yn rhaid i'r achos gael ei atal oherwydd rhesymau cyfreithiol.
"Mae rhywbeth wedi digwydd sy'n golygu na allai'r achos barhau ac rwy'n gorfod eich rhyddhau o'ch dyletswyddau," meddai.
"Fe fydd yn rhaid i'r achos gael ei ystyried gan reithgor arall, ni allaf fanylu ar y rhesymau pam fod yr achos wedi dod i ben."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019