Wyth yn gwadu llofruddiaeth Harry Baker yn Y Barri
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff Harry Baker ei ganfod yn Y Barri ym mis Awst
Mae wyth o bobl wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio bachgen ym Mro Morgannwg ym mis Awst.
Cafodd Harry Baker, 17 o Gaerdydd, ei ganfod yn farw ym mhorthladd Y Barri ar 28 Awst eleni.
Yn Llys y Goron Caerdydd, ymddangosodd wyth diffynnydd:
Peter McCarthy, 36 o'r Barri;
Leon Symons, 21 ac heb gyfeiriad parhaol;
Ryan Palmer, o'r Barri;
Nathan Delafontaine, 32 ac heb gyfeiriad parhaol;
Leon Clifford, 22 ac heb gyfeiriad parhaol;
Raymond Thompson, 47 o'r Barri;
Lewis Evans, 61 o'r Barri;
Llanc 16 oed nad oes modd ei enwi.
Mae'r diffynyddion wedi eu cyhuddo ar y cyd o lofruddiaeth, ac fe wadodd pob un y cyhuddiad.
Cafodd pob un eu cadw yn y ddalfa wedi'r gwrandawiad, a daeth cadarnhad y bydd yr achos yn eu herbyn yn dechrau ym mis Chwefror 2020.
Roedd aelodau o deulu Harry Baker yn y llys, yn dal lluniau ohono ac yn gwisgo crysau gyda'i wyneb ar eu blaenau.
Fe wnaeth un weiddi ar y diffynyddion wrth iddyn nhw adael y llys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019