Operasiwn ffaith: Blog Vaughan Roderick
- Cyhoeddwyd
Fe soniais i'r tro diwethaf am y teimlad petrusgar sy'n heintio Ceidwadwyr y Cynulliad ac yn sicr dyw penderfyniad David Melding i adael y Cynulliad flwyddyn nesaf ddim yn awgrymu bod y blaid yn disgwyl bod mewn llywodraeth ym Mharc Cathays yn y dyfodol agos.
Mae popeth yn gymharol wrth reswm ac os ydy'r Torïaid yn bryderus ynghylch etholiad 2021 dyw hynny'n ddim o'i gymharu â'r nerfusrwydd ar y meinciau Llafur.
Mae cyfundrefn etholiadol y Cynulliad yn ffafrio Llafur ond dim ond os ydy'r blaid yn llwyddo i ddominyddu'r ras etholaethol. Os ydy Llafur yn dechrau colli seddi tiriogaethol dyw'r system restr ddim yn debyg o'i digolledu.
Yn gefndir i hyn oll mae'r ffaith bod y blaid ar ei chefn ar lefel Brydeinig. Fe ddylai newid arweinydd fod o ryw faint o gymorth iddi ond does neb yn disgwyl adferiad cyflym na buan.
Mae 'na ffactorau penodol Cymreig sy'n milwriaethu yn erbyn y blaid hefyd. Un o'r rheiny yw cyflwr y Gwasanaeth Iechyd. Mae sawl Llafurwr o'r farn bod Betsi yn un mor gyfrifol â Bregsit am eu colledion yn y gogledd ddwyrain y llynedd a gallasai problemau Byrddau Iechyd Hywel Dda a Chwm Taf Morgannwg brofi'r un mor wenwynig.
Hawdd beio llymder wrth gwrs a dyw hynny ddim yn ddireswm ond, ar ôl ugain mlynedd mewn grym, gall Llafur ddim osgoi'r cyfan o'r cyfrifoldeb.
Ofn mawr arall Llafur yw bod Cymru yn debyg o wynebu argyfwng economaidd o ganlyniad i'r fath o Bregsit y mae Llywodraeth Boris Johnson yn ei chwennych. Nid Operation Fear yw'r rhybudd yna ond operasiwn ffaith yn ôl un ffynhonnell.
Does neb yn siŵr iawn pwy fyddai'n cael eu beio gan yr etholwyr yn y fath amgylchiadau ond dyw hi ddim yn syndod bod ymosodiadau Llywodraeth Cymru ar gynlluniau Downing Street wedi dwysau yn ystod y dyddiau diwethaf.
Mae'r cyfan yn awgrymu mai megis cychwyn y mae effaith hir dymor Bregsit ar ein gwleidyddiaeth ni. I ble mae hyn oll yn ein harwain ni? Dyn a ŵyr mewn gwirionedd ond mae 'na ddyddiau difyr o'n blaenau!