VC10, Mellten Wen
- Cyhoeddwyd
Yn ôl yn oes yr arth a'r blaidd bues i'n gweithio fel myfyriwr ym Maes Awyr Caerdydd. Rwy'n meddwl taw hwnnw oedd y jobyn hawsaf i mi wneud erioed. Roedd 'na hanner dwsin ohonom ni yn holi pob hanner canfed teithwyr fel rhan o arolwg gan yr Adran Drafnidiaeth.
Prin oedd y teithwyr yn y Rhws bryd hynny a, hyd y cofiaf i, roeddem yn treulio y rhan fwyaf o'n hamser yng nghantîn gweithwyr y maes awyr.
Maes Awyr Morgannwg oedd enw'r lle ar y pryd gan adlewyrchu'r ffaith mai'r cyngor sir oedd yn bia'r busnes a bod Cyngor Caerdydd yn pwdu ynghylch penderfyniad y llywodraeth i gau maes awyr gwreiddiol y ddinas ger aber afon Rhymni.
I fod yn deg, roedd gan gynghorwyr Caerdydd bwynt. Mae'r maes awyr yn bell o'r ddinas, yn drafferthus i'w gyrraedd ac wedi ei leoli ar yr ochr anghywir i Gaerdydd i ddenu teithwyr o orllewin Lloegr.
Serch hynny, fe glustnodwyd Caerdydd yn faes awyr swyddogol de Cymru a gorllewin Lloegr yn ôl yn y dyddiau pan oedd llywodraethau yn penderfynu pethau felly ac am ddegawdau roedd meysydd awyr Caerdydd a Bryste yn denu tua'r un nifer o deithwyr.
Ond daeth oes o ddadreoli a phreifateiddio a chyda Ryanair ac easyJet yn dewis Bryste yn hytrach na Chaerdydd fel canolfan i'w gweithgarwch, esgynnodd Bryste i'r entrychion gan adael Caerdydd ar y lanfa.
Mae rhestru'r cwmnïau sydd wedi gwasanaethu maes awyr Caerdydd ac yna methu yn amlygu'r broblem. Off top fy mhen, gallaf enwi Cambrian, DANAIR, Air Wales (ddwywaith), BmiBaby a nawr FlyBE. Rwy'n siŵr bod 'na eraill.
Mae straeon pob un o'r cwmnïau yn wahanol i'w gilydd ond mae 'na broblem strwythurol yn perthyn i'r diwydiant sef bod y cwmnïau mawrion yn tueddu i gamu i mewn, yr eiliad y mae cwmni llai yn llwyddo i ddatblygu gwasanaeth proffidiol.
Fel enghraifft o hynny, yn y blynyddoedd diwethaf mae Ryanair wedi dechrau cystadlu yn erbyn cwmnïau llai trwy gynnig hediadau o Gaerdydd i Sbaen sy'n beth da o safbwynt y teithiwr ond nid y cwmnïau eraill sy'n hedfan o Gaerdydd.
Ymgais i ddatrys y broblem oedd ymdrech Llywodraeth Cymru i sicrhau rheolaeth dros dreth APD ac i gael caniatâd i dalu cymhorthdal i ddatblygu gwasanaethau i lefydd fel Manceinion.
Dyw llywodraeth y DU ddim wedi dangos fawr o ddiddordeb yn y naill syniad na'r llall hyd yma ond efallai daw achubiaeth o gyfeiriad annisgwyl.
Yn ddiweddar gwrthododd y cyngor lleol rhoi caniatâd cynllunio i Faes Awyr Bryste ehangu ym mhellach er mwyn galluogi i'r lle ddelio a deuddeg miliwn o deithwyr yn flynyddol.
Ymateb i'r argyfwng hinsawdd oedd y cyngor ond, yn eironig ddigon, gallai siom i Faes Awyr Bryste fod yn donig i un Caerdydd.