Diflannodd iaith fy mab dros nos
- Cyhoeddwyd
Mae gan Catrin Elis Williams, o Fangor, dri mab, ac mae gan yr hynaf, Daniel, sy'n 18 oed, awtistiaeth.
Yn ddiweddar, mae llawer o godi ymwybyddiaeth wedi bod am gyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth ond, yn ôl Catrin, mae llai o drafod am awtistiaeth heb leferydd, sydd ar ochr mwy dwys y sbectrwm mewn sawl modd.
Yma, mae hi'n siarad â Cymru Fyw am gyflwr "anodd" ei mab "gwengar":
Er fod Catrin a'i gŵr ill dau yn gweithio yn y maes meddygol, doedden nhw ddim yn siŵr beth oedd ystyr y ffaith bod Daniel wedi rhoi'r gorau i siarad yn 21 mis oed.
"O'dd ganddo fo dipyn o eiriau, ond fwy neu lai dros nos, 'naeth o stopio defnyddio'r geiriau rheiny a rhoi'r gorau i siarad," eglurai Catrin, sydd yn feddyg teulu.
"O'ddan ni ddim yn ymwybodol ar y pryd beth oedd arwyddocâd hynny - o'dd o fel arall yn ymddangos yn ocê.
"Mi wnaethon ni 'chydig o ymchwil a sylweddoli ei fod o'n arwydd eitha' pendant o awtistiaeth - ei fod o'n colli sgiliau iaith."
Cyfathrebu mewn ffyrdd eraill
Mae Daniel bellach yn 18 oed, ac mae ganddo awtistiaeth heb leferydd, sydd yn fath eithaf dwys o'r cyflwr, meddai Catrin, ond dydi hynny ddim yn ei atal rhag cyfathrebu ag eraill.
"Mae o'n methu ffurfio geiriau, ond mewn ffyrdd eraill mae o'n cyfathrebu'n dda iawn.
"Mae ganddo fo lais - mae o'n gwneud sŵn mewn ffordd addas os ydi o eisiau'n sylw ni. Mae o'n chwerthin ac yn gweiddi os ydi o'n hapus. Felly mae o'n defnyddio ei lais, jest bod ffurfio geiriau yn rhywbeth sydd bron yn amhosib iddo fo ei wneud.
"Mae ei fynegiant wyneb o'n dweud cyfrolau, ac mae o'n defnyddio'i ddwylo - arwyddion a iaith Makaton - felly dydi o ddim fel tasa fo yn ei fyd bach ei hun.
"Un o'i gryfderau mawr o ydi ei fod o'n hoff iawn o helpu. Mae o'n chwilio am jobsys i'w gwneud. Mae o wrth ei fod yn fy helpu fi'n y tŷ, felly mae o'n dilyn cyfarwyddiadau, a 'dan ni'n cydweithio'n arbennig o dda."
'Rhan gwbl greiddiol o'r teulu'
Daniel yw'r hynaf o dri mab Catrin, ac fel mae hi'n ei egluro, ni chafodd y tri fagwraeth wahanol iawn i'w gilydd:
"Mae Daniel wastad wedi bod yn rhan gwbl greiddiol o'r teulu - 'sa ni ddim yn mynd i nunlle hebddo fo - 'dan ni wastad wedi gweithio o gwmpas ei gyflwr, a dydi ei frodyr iau ddim yn cofio amser hebddo fo wrth gwrs.
"Mi oedd o'n teimlo fel diwedd y byd pan gafodd o'r diagnosis ar y cychwyn - oeddan ni'n methu dychmygu sut alla fo a ninnau fyw efo'r fath gyflwr am byth. Mi gymrodd hi flynyddoedd i ni ddod i arfer, â dweud y gwir.
"Wedi dweud hynny, doedd dim dewis ond dal ati, a 'dan ni wedi cario 'mlaen efo'n bywydau - gweithio, cymdeithasu, hamddena - a ddim wedi gadael i awtistiaeth ein rhwystro ni. Mae help y gwasanaethau cymdeithasol werth y byd, a ffrindiau gwych sy'n gwarchod Daniel ers iddo fod yn ddim o beth.
"'Dan ni jest yn trio gwneud beth bynnag i weithio o gwmpas y cyflwr. Os awn ni ar wyliau, ella ei fod o'n brafiach i Daniel gael lle mwy preifat, felly 'sa'n ni'n dueddol o fynd i villa yn hytrach na mynd i westy. Ond ella 'sa ni'n gneud rhywbeth fel'na beth bynnag!
"'Dach chi jest isho gwneud bywyd yn haws iddo fo ac i chi'ch hun."
Agwedd da yn gwneud gwahaniaeth
Mae Catrin bob amser wedi bod yn agored iawn yn siarad am awtistiaeth Daniel, a'r ffaith ei fod yn gallu bod yn anodd ar adegau: "Mae'r rhwystredigaeth sy'n dod law yn llaw efo'r problemau cyfathrebu yn golygu fod hynny yn gallu arwain at ymddygiad heriol o dro i dro.
"'Dan ni wedi dysgu dros y blynyddoedd beth ydi'r arwyddion ei fod o'n anhapus a 'dan ni'n trio gwneud yn siŵr ein bod ni'n lleihau y risg o hynny ddigwydd, a'n bod ni ddim yn mynd â fo i sefyllfaoedd 'dan ni'n gwybod fydd yn anodd iddo fo, fel sefyllfaoedd swnllyd.
"Faswn i'n licio meddwl ein bod ni'n deulu llai ffraegar o'r herwydd, gan fod Daniel yn sensitif iawn i emosiynau pobl - mae o'n dda am ddarllen wynebau, sy'n beth prin mewn awtistiaeth.
"Weithiau mae'ch agwedd chi eich hun yn gwneud gwahaniaeth, nid i ddweud fod awtistiaeth yn hawdd - dydi o ddim - ond 'dan ni wedi hen dderbyn mai fel'na mae o wedi cael ei wneud.
"Y peth diwetha' fasan ni isio'i wneud ydi trio ei newid o i fod yn rhywun na fedr o byth fod - mi fyddai hynny'n sobor o annheg arno fo."
Un llygad ar y dyfodol
Ar hyn o bryd, mae Daniel yn ddisgybl yn Ysgol Pendalar, Caernarfon, ond ag yntau wedi troi yn 18 oed, mae'r amser wedi dod i feddwl am ei ddyfodol, meddai Catrin.
"Mi fydd yna dipyn o drawsnewid rŵan - 'dan ni yn y broses o baratoi lle fydd o'n mynd o fis Medi ymlaen.
"'Dan ni'n gobeithio fydd o'n cael mynd i goleg efo'r cymorth a'r gefnogaeth sydd yn iawn iddo fo, a threulio amser mewn rhywle fel Antur Waunfawr, sydd yn sefydliad sy'n rhoi llawer iawn o gefnogaeth i oedolion sydd efo pob math o anghenion dysgu yn lleol.
"'Dan ni'n ffodus iawn ein bod ni'n byw yn yr ardal ydan ni. Pan ddaeth y diagnosis i'r amlwg yn y dechra', mi oedd Grŵp Cefnogi Awtistiaeth ac Asperger Gwynedd a Môn yn gefn mawr, ac yn parhau i fod yn gefn mawr i ni.
"Mae Cartrefi Cymru wedi bod yn wych hefyd - 'dan ni'n cael gofal ysbaid (fel ei fod o'n cael ysbaid oddi wrthon ni, dwi'n meddwl!)."
Y bwriad yw i Daniel dreulio tair blynedd yn y coleg, felly does yna ddim brys mawr i benderfynu beth fydd y trefniadau yn yr hir-dymor o ran lle fydd o'n treulio'i amser a lle fydd o'n byw, meddai Catrin, ond mae'n rhywbeth fydd angen cael ei ystyried yn ofalus.
"Mae'r ffaith ei fod o heb leferydd yn ei wneud o llawer mwy bregus - mae o'n golygu os oes rhywun ddim yn ei 'nabod o, ei bod hi'n anodd iawn gwybod beth sydd ar ei feddwl o a beth sydd yn ei boeni o. Fyddai o ddim yn gallu treulio amser yn gyfangwbl ar ei ben ei hun, heb gefnogaeth.
"Ond mae 'na gefnogaeth wych yn lleol, a 'dan ni'n cymryd pethau fel maen nhw'n dod. Diolch byth 'dan ni'n fyw ac yn iach ac yn fwy nag abl a hapus i edrych ar ei ôl o.
"Mae'n rhaid cael yr agwedd; ydi, mae o'n gyflwr gydol-oes. 'Neith o ddim newid, a go brin wnaiff Daniel byth siarad (er, pwy a ŵyr - mae o'n ein synnu ni'n aml!)
"Wrth dderbyn fod y cyflwr ganddo fo, bod ganddo fo anghenion ychwanegol, a bo' ni'n fodlon gweithio o gwmpas hynny efo agwedd bositif, mae o'n gwneud bywyd cymaint haws.
"Mae o'n hogyn hapus a bodlon a hawdd iawn gwneud efo fo. Mae ganddo fo'r bobl mae o'n ymddiried ynddyn nhw - ac mae rheiny yn ofnadwy o bwysig iddo fo.
"Os oes ganddo fo ei deulu, a'i fod o'n teimlo'n ddiogel, mae o'n hapus. Felly, 'dan ninnau'n hapus hefyd!"
Hefyd o ddiddordeb: