Wynebu'r dyfodol gydag awtistiaeth

  • Cyhoeddwyd
Catrin a Jaco

Mae'r actores Catrin Powell yn gobeithio y bydd rhaglen am awtistiaeth ei mab, Jaco, yn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ag awtistiaeth.

Mae hi ei hun wedi dysgu llawer, meddai, o wylio'r rhaglen fydd ar BBC One Wales nos Fawrth, 4 Ebrill, Richard and Jaco: Life With Autism.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar brofiadau Richard Mylan, tad Jaco, sydd hefyd yn actor, a'i obeithion a'i bryderon am ddyfodol ei fab wrth iddo symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

Mae Catrin a Richard wedi gwahanu a Jaco'n rhannu ei amser rhyngddyn nhw gan fyw wythnos ar y tro gyda'r ddau.

Mae Catrin, sy'n adnabyddus am chwarae rhan Cadno ar Pobol y Cwm, yn ymddangos yn y rhaglen hefyd ac yn cyfaddef ei bod wedi trïo peidio â meddwl am ddyfodol ei mab 11 oed hyd yma.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhaglen yn bortread o berthynas Richard Mylan a'i fab, Jaco

"Fel dwi'n deud yn y rhaglen dwi bron yn trïo peidio meddwl am y peth, ond fydd rhaid imi ddechrau meddwl am y dyfodol - dwi jyst yn gobeithio y bydd o'n gallu byw ar ben ei hun," meddai Catrin sydd hefyd yn fam i ferch fach dair oed.

Mae Jaco wedi setlo yn dda yn yr ysgol uwchradd erbyn hyn, ond mae'r cyfnod yn y rhaglen yn garreg filltir iddo fo a'i rieni wrth iddyn nhw ddechrau wynebu sut fywyd fydd ganddo fel oedolyn.

'Rhywbeth o'i le'

Er bod Jaco wedi dechrau siarad ar adeg normal, fe ddechreuodd ei iaith slofi ar ôl tua 18 mis meddai Catrin ac roedd hi'n gwybod bod 'na rywbeth o'i le.

"Dwi'n cofio gofyn i'r ymwelydd iechyd, a dweud mod i'n poeni bod 'na rywbeth ddim yn iawn a 'nath hi ddweud 'Na, na, mae'n hollol iawn, mae o'n hitio'r milestones mae o fod i hitio efo geiria a phetha felna'.

"Roedd hi'n dweud wrtha' i am beidio poeni.

"Nes i ofyn iddi tua tair neu bedair gwaith a hithau'n dweud wrtha i am beidio poeni. Ond yn y diwedd, fe wnaeth hi fy referrio i weld paediatrician wedyn a nath o gynyddu o fanna, ac mi gafodd wahanol brofion.

"Ond ro'n i'n gwybod beth bynnag - mae ei gefnder bach o yn awtistig hefyd ac roedd o wedi cael diagnosis cyn Jaco.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jaco yn hoffi ffilmio pethau a gwylio'i fideos

"Oni'n gwybod be' oedd o mewn gwirionedd ond ro'n i eisiau diagnosis yn bennaf er mwyn iddo fo gael statement i gael help yn yr ysgol - hwnna oedd y peth pwysicaf."

Mae cael y datganiad yma'n golygu fod Jaco yn cael help unigol gan athro neu athrawes yn y dosbarth.

Trefn a phatrwm

Y diagnosis gafodd Jaco i ddechrau oedd PDD (Pervasive Development Disorder). Erbyn hyn, dydi'r categori hwnnw ddim yn cael ei ddefnyddio ac mae'r diagnosis yn dod dan ambarél cyffredinol Anhwylder Sbectrwm Awstistig (Autistic Spectrum Disorder).

"Cyn i fi gael plentyn awtistig," meddai Catrin, "o'n i 'di gwylio rhaglenni am blant efo'r cyflwr ac oni'n meddwl eu bod nhw jyst wedi eu cau yn eu byd bach eu hunain ac yn y blaen. Ond dydi Jaco ddim fel'na.

"O'n i hefyd yn meddwl nad oedden nhw'n gallu dangos empathi - ond mae o yn gallu. Os ydi rhywun yn mynd yn ypset, mae o'n poeni am bobl ac yn mynd yn ypset drostyn nhw."

Un o brif nodweddion ei gyflwr ydy ei fod yn hoffi trefn a phatrwm, ac rydyn ni'n gweld yn y rhaglen ei fod yn hoffi ymweld â Marchnad Caerdydd i weld y stondinau'n cau ac yn arbennig i glywed y gloch yn cael ei chanu ar derfyn dydd.

"Mae o'n licio trefn i bob dydd. Mae 'na rwtîn mynd i'r gwely: dwi'n gorfod mynd a fo fyny, mae o'n gofyn be' sy'n digwydd fory a dwi'n rhestru be fyddwn ni'n ei wneud.

Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd, mae Catrin yn meddwl y byddai Jaco'n hoffi gweithio gyda threnau neu beiriannau golchi pan fydd yn hŷn

"Os oes rhywbeth yn digwydd sy'n wahanol i be dwi wedi ei ddweud, mae'n mynd yn flin. Os dwi wedi dweud ein bod ni'n mynd i parc a'i bod hi'n bwrw, a dydan ni ddim yn gallu mynd, mae hynny'n chwalu ei frên o."

Yn y rhaglen rydyn ni'n gweld Jaco yn ffilmio popeth ar ei ffôn ac yn gwisgo clustffonau am ei glustiau - mae'n clywed sŵn yn uwch na'r rhan fwyaf o bobl ac mae'n gallu brifo ei glustiau.

Pan roedd o'n fach roedd hyn yn golygu na châi Catrin chwerthin am fod y sŵn yn ei ddychryn, na gweiddi mewn gemau pêl-droed neu rygbi.

Mae hefyd yn ei chael yn anodd delio efo pethau fel pryfaid neu bili pala - unrhyw beth sydd y tu hwnt i'w reolaeth.

"Ond heblaw am hynna, 'sgynno fo ddim problem ymddygiad - mae o'n hogyn bach da, ufudd. Dim ond os nad ydi petha'n mynd ei ffordd o mae o'n gallu cael meltdowns," meddai Catrin.

Disgrifiad o’r llun,

Jaco gyda Richard mewn gêm rygbi - gyda chlustffonau rhag y sŵn

Cyfleoedd

Mae Jaco yn mynd i uned arbennig mewn ysgol arferol ar hyn o bryd ond yn y rhaglen mae Richard yn mynd i weld ysgol arbennig hefyd ac yn siarad gyda dyn ifanc ag awtistiaeth sydd mewn swydd weinyddol ac un sy'n siaradwr cyhoeddus.

Roedd hyn yn agoriad llygiad i Catrin ac mae'n gobeithio y bydd yn gwneud yr un fath i wylwyr y rhaglen.

"Gobeithio bydd y rhaglen yn codi ymwybyddiaeth o be sydd 'na ar eu cyfer nhw - tra maen nhw yn yr ysgol a tu allan i'r ysgol hefyd.

"Mae hyd yn oed wedi gwneud hynny i fi wrth wylio'r rhaglen, dwi wedi dysgu am yr ysgol arbennig ac yn y blaen.

"Mae o wedi gwneud ifi feddwl, felly gobeithio g'neith o wneud yr un peth i bobl eraill."