Yr ynys fechan hon
- Cyhoeddwyd
Mae pandemig yn rhywbeth anghyfarwydd i ni heddiw. Mae 'na ambell i un wedi bod dros y degawdau diwethaf, ond ar y cyfan mae'n systemau iechyd cyhoeddus wedi ein hamddiffyn rhagddynt mewn gwledydd datblygedig.
Roedd ein cyndadau ar y llaw arall yn hen gyfarwydd â'r pethau melltigedig yma. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn unig gafwyd pum pandemig o glefyd y geri, neu golera, yn unig, ac mae'r mynwentydd anghysbell ac unig lle claddwyd y meirwon yn dyst i'w heffaith ar Gymru.
Roedd pandemigau Oes Fictoria yn dilyn patrwm. Yn ddieithriad, yn ne neu dde ddwyrain Asia y byddant yn dechrau cyn ymledu'n fyd-eang dros gyfnod o flynyddoedd.
Yng nghanol y 1860au roedd hi'n amlwg bod un arall ar y ffordd. Y tro hwn, penderfynodd Caerdydd wneud rhywbeth ynghylch y peth. Neu, yn hytrach, fe benderfynodd Swyddog Meddygol y dref, gŵr o'r enw Henry Paine, wneud rhywbeth.
Yn ôl y sôn, roedd Dr Paine yn haeddu ei enw ac yn dipyn o boen yng ngolwg pwysigion y dref. Serch hynny, roedd e o flaen ei oes gan fynnu bod modd atal neu o leiaf lleddfu pandemig.
Os oedd y geri yn cyrraedd Caerdydd, ar fwrdd llong y byddai'r clefyd yn dod, yn ôl y doctor. Yr ateb felly oedd ynysu morwyr oedd yn dangos symptomau a gwneud hynny cyn agosed i'r dociau â phosib rhag i'r haint ledu trwy weddill y ddinas.
Ond sut oedd sefydlu ysbyty ar fyr rybudd, a phwy fyddai'n talu am y lle?
Fe fydd y rhan fwyaf o drigolion Caerdydd yn gallu ateb y cwestiwn hwnnw. Mae hanes yr HMS Hamadryad yn rhan o'n chwedloniaeth ddinesig gyda pharc, bloc o fflatiau ac ysgol Gymraeg y dociau wedi eu henwi ar ei hôl.
Llong rhyfel wedi ei hadeiladu rhyw ddeugain mlynedd yn gynt yn Noc Penfro oedd yr Hamadryad, Fe gafodd ei thowio i Gaerdydd i fod yn gartref i'r ysbyty newydd, gyda'r costau'n cael eu talu trwy godi toll ar longau oedd yn defnyddio'r dociau.
Agorwyd yr ysbyty newydd yn 1866 ac yn y deugain mlynedd cyn i'r ysbyty symud i'r tir mawr cafodd oddeutu 173,000 o forwyr eu trin neu eu hynysu yno. Yn ôl Alfred Sheen, sylfaenydd ysgol feddygol Caerdydd, fe lwyddodd yr ysbyty i atal nid yn unig y geri ond hefyd y frech wen rhag ymledu yng Nghymru.
Nawr roedd ynysu yn rhan o ymateb llywodraethau'r Deyrnas Unedig yn nyddiau cynnar y pandemig presennol. Ond ynysu gwirfoddol gyda phobol yn aros yn eu cartrefi eu hunain oedd yr ynysu hynny.
Mae gwledydd eraill wedi gorfodi i bobol aros mewn ystafelloedd gwesty tra'n ynysu, gyda swyddogion diogelwch yn sicrhau bod neb yn cael eu temtio i grwydro.
Wrth gwrs, haws yw gwneud hynny ar ôl i deithio rhyngwladol grebachu i'r nesaf peth i ddim, ond fe fydd p'un ai oedd yr ynysu gwreiddiol yn ddigonol yn gwestiwn arall i ystyried ar ddiwedd hyn oll.